Newyddion S4C

Comisiynydd Heddlu'r Gogledd yn 'pryderu' am gyffur newydd yn cyrraedd yr ardal

15/05/2024
Andy Dunbobbin

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi dweud ei fod yn bryderus bydd cyffur newydd all beryglu bywydau yn cyrraedd strydoedd yr ardal yn fuan. 

Dywedodd Andy Dunbobbin ei fod yn “hynod o bryderus” y byddai cyffuriau opioid synthetig newydd yn cyrraedd y gogledd yn fuan - cyffuriau sydd eisoes yn cael eu gweld yn ne Cymru. 

‘Nitazenes’ yw’r cyffur dosbarth A y mae’r heddlu yn bryderus amdano, a hynny’n “hynod o gaethiwus ac anhygoel o beryglus,” meddai Mr Dunbobbin. 

Gallai’r cyffur fod yn gryfach na heroin, gan olygu risg uwch o orddos damweiniol. Fel ffentanyl, mae'n bosib iddo gael ei gymysgu a’i gwerthu gyda chyffuriau eraill. 

“Mae nhw'n wirioneddol gryf, rydym yn talu sylw manwl i'r farchnad opioids synthetig, gan geisio sicrhau ein bod ni'n gallu tarfu arno," meddai Mr Dunbobbin. 

“Rydyn ni wedi gweld nitazenes yn ne Cymru, ac rydyn ni'n disgwyl eu gweld nhw yng ngogledd Cymru hefyd. 

“Maen nhw’n gallu bygwth bywyd. Fe allan nhw gael eu hychwanegu i gocên ac mi fydd pobl yn eu defnyddio, a gall hynny arwain at farwolaeth,” meddai. 

Dywedodd y Comisiynydd, a gafodd ei ail-ethol i’w rôl am bedair blynedd bellach ar ran Llafur y mis hwn, bod Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio gyda lluoedd cyfagos – gan gynnwys Swydd Gaer a Glannau Mersi – er mwyn mynd i’r afael â’r cyffuriau. 

Mae cydweithio o’r fath eisoes wedi bod yn llwyddiannus wrth i luoedd yr heddlu parhau i geisio mynd i’r afael â rhwydweithiau llinellau sirol (‘county lines’), meddai. 

Ychwanegodd fod defnydd o heroin ar y strydoedd, yn ogystal â’r defnydd cymdeithasol o gocên yn parhau i fod yn broblem y mae’r heddlu yn ceisio ei atal.

Lluniau: Andy Dunbobbin (Facebook), Nitazenes (Alcohol and Drug Foundation)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.