Dros hanner y math o fêps sy'n cael eu defnyddio gan blant yng Nghymru yn 'anghyfreithlon'
Mae dros hanner y math o fêps sy'n cael eu defnyddio gan blant yng Nghymru yn “debygol iawn” o fod yn anghyfreithlon, medd arolwg newydd.
Yn ôl adroddiad gan elusen sy’n ceisio mynd i’r afael ag ysmygu, mae 55% o blant a phobl ifanc sy’n fêpio yn gwneud hynny gan ddefnyddio teclynnau sydd heb eu profi, gan olygu eu bod yn debygol o fod yn anghyfreithlon.
Roedd bron i chwarter (24%) o holl blant blwyddyn 7 i 11 wedi ceisio fêpio, ac roedd 44% ym mlynyddoedd 12 a 13 wedi ceisio fêpio.
Holodd arolwg ASH Cymru 12,524 o blant oedran ysgol uwchradd yng Nghymru rhwng mis Medi a Rhagfyr y llynedd.
Dywedodd 42% o ddisgyblion blwyddyn 7 i flwyddyn 11 ei fod yn hawdd cael gafael ar fêps, a dywedodd 57% ohonynt fod fêpio yn gyffredin ymhlith pobl yn eu grŵp oedran nhw.
Mae’r arolwg “nid yn unig yn taflu goleuni ar faint y farchnad anghyfreithlon, ond mae hefyd yn dangos nifer uchel y pobl ifanc sy’n cael trafferth â dibyniaeth ar nicotin,” meddai Suzanne Cass sef Prif Weithredwr ASH Cymru.
Yn ôl yr arolwg, roedd naw o bob 10 o blant a phobl ifanc hefyd yn defnyddio fêps oedd yn cynnwys nicotin “hynod gaethiwus".
Roedd bron i hanner y bobl ifanc oedd yn fêpio hefyd wedi dweud nad oedden nhw’n gallu treulio diwrnod cyfan yn yr ysgol heb wneud hynny.
Fe ddaw’r adroddiad wrth i fesur sy’n galw ar siopau neu unrhyw un sydd am werthu fêps neu tobaco talu ffi a chyflwyno eu manylion i gofrestr arbennig, gael ei drafod ar lawr y Senedd ddydd Mercher.