Newyddion S4C

Darparu'r 'nifer uchaf erioed' o barseli bwyd yng Nghymru

15/05/2024
Banc Bwyd

Mae'r nifer uchaf erioed o barseli bwyd brys wedi cael eu darparu gan fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl ffigyrau newydd fe gafodd mwy na 187,000 o barseli bwyd brys eu darparu, gyda 65% o'r gefnogaeth ar gyfer teuluoedd â phlant. 

Mae'r ffigyrau hefyd yn awgrymu fod nifer cynyddol o bobl yn cael trafferth fforddio'r pethau hanfodol, gyda mwy na 47,700 o bobl yng Nghymru yn defnyddio banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell am y tro cyntaf. 

Mae'r ymddiriedolaeth yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu cymorth i bobl sy'n wynebu caledi. 

Maent yn galw ar y llywodraeth i gyflwyno cynllun i "leihau ac atal yr angen am fanciau bwyd yng Nghymru".

Ychwanegodd yr ymddiriedolaeth bod angen cefnogaeth gan Lywodraeth y DU hefyd, a system nawdd cymdeithasol sy'n "addas i'r diben".

Yn ôl yr adroddiad, y rheswm mwyaf cyffredin pam fod pobl yn defnyddio banciau bwyd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd incwm isel neu ddyled. 

'Sicrhau newid'

Dywedodd Rachel Biggs, Rheolwr Banc Bwyd Caerdydd bod y galw yn y brifddinas wedi cynyddu: "Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, rydym ni wedi darparu mwy na 20,000 o barseli bwyd brys i bobl mewn angen.

"Ein gweledigaeth yw dyfodol lle nad oes unrhyw un yn llwglyd oherwydd gall pawb fforddio'r hanfodion. Rydym ni’n hynod ddiolchgar i'r cyhoedd am eu cefnogaeth gyda rhoddion bwyd a rhoddion ariannol, ac rydym ni hefyd yn gobeithio gweithio gyda'n gilydd i ddefnyddio ein llais cyfunol i sicrhau newid parhaol sy'n sicrhau bod pawb yn gallu fforddio'r hanfodion."

Ychwanegodd Arweinydd Rhwydwaith Cymru yn Ymddiriedolaeth Trussell, Jo Harry bod mwy o bobl yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd. 

"Dylai pawb yng Nghymru allu fforddio'r hanfodion - i brynu eu bwyd eu hunain a gwresogi eu cartrefi. Mae hyn wedi mynd yn anoddach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel y dangoswyd gan y 47,700 o bobl oedd angen parsel bwyd brys am y tro cyntaf. Nid yw hyn yn iawn. Rhaid i rywbeth newid.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.