Newyddion S4C

Oedi cynlluniau dadleuol ar gyfer ffermydd Cymru wedi protestiadau

Oedi cynlluniau dadleuol ar gyfer ffermydd Cymru wedi protestiadau

Mae gweinidog amaeth newydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn oedi gweithredu cynlluniau dadleuol ar gyfer ffermydd wedi protestiadau.

Bydd y cyfnod pontio i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau yn 2026 yn hytrach nag mis Ebrill 2025.

"Rydyn ni wastad wedi dweud na fyddai'r Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod ac rwy'n glynu wrth hynny,” meddai yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Mae elfennau o’r cynllun, gan gynnwys yr angen i neilltuo 10% o dir ffermydd ar gyfer coed, wedi bod yn ddadleuol. 

Fe wnaeth 5,000 o bobol brotestio y tu allan i’r Senedd yn erbyn elfennau o’r cynllun ym mis Chwefror. 

Roedd Huw Irranca-Davies wedi dweud yn flaenorol bod 12,000 wedi ymateb i ymgynghoriad ar y pwnc.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg yn Fferm Sealands ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Amaeth fod newid yr amseriadau yn rhan o'i "ymrwymiad i ymgysylltu'n ystyrlon â'r sector ffermio".

Dywedodd: "Ers fy niwrnod cyntaf yn y rôl hon, rwyf wedi bod allan yn cyfarfod â'n ffermwyr ac yn gwrando arnynt, yn clywed eu barn ac yn ystyried yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.

"Bydd fy ymrwymiad i ymgysylltu'n ystyrlon â'r sector ffermio, Cydweithwyr Plaid Cymru o dan y Cytundeb Cydweithredu a rhanddeiliaid eraill ar y newidiadau sydd eu hangen yn golygu newid yn yr amserlen weithredu.

"Rydyn ni wastad wedi dweud na fyddai'r Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod ac rwy'n glynu wrth hynny."

'Gwrando'

Cadarnhaodd wedyn y byddai Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau i fod ar gael yn 2025.

Bydd cyhoeddiad i ddilyn ar uchafswm y Taliad Sylfaenol.

Yn ogystal bydd cynlluniau buddsoddi gwledig, fel y cynlluniau grantiau bach, yn parhau. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies: “Gyda'n gilydd gallwn greu dyfodol lle mae ein ffermwyr yn cynhyrchu’r bwyd gorau o Gymru i'r safonau uchaf, gan ddiogelu ein hamgylchedd gwerthfawr," meddai.

"Rydyn ni'n gwrando a byddwn ni'n parhau i wrando.

“Rhaid i ni barhau i weithio mewn partneriaeth i gwblhau cynllun sy'n gweithio yn y tymor hir.

"Dyma'r cam nesaf i gyflawni hynny."

'Ffynnu'

Dywedodd NFU Cymru, Aled Jones ei fod yn croesawu'r penderfyniad.

“Rydym yn cytuno gyda Ysgrifennydd y Cabinet na ddylai’r cynllun hwn gael ei gyflwyno nes ei fod yn barod," meddai.

"Ni all teuluoedd ffermio na’r llywodraeth fforddio cael cynllun sy’n methu â chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer bwyd, natur, hinsawdd a chymunedau.

“Dyma gynllun a fydd yn sail i gynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd ffermio, ein cymunedau, ein busnesau gwledig sy’n ddibynnol ar sector ffermio ffyniannus, ein hiaith a’n diwylliant am genhedlaeth i ddod. 

"Rwy’n croesawu’r ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i gymryd yr amser i wrando ar y rhai y mae’r cynigion yn effeithio arnynt ac i weithio mewn partneriaeth ar ddatblygiad y cynllun yn y dyfodol.

“Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud penderfyniad synhwyrol a phragmatig i barhau â Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2025. 

"Mae’r penderfyniad cynnar hwn yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd y mae mawr eu hangen i sector sydd wedi wynebu heriau sylweddol y flwyddyn ddiwethaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.