Newyddion S4C

Cau pwll nofio ym Mhontardawe yn ergyd i efeilliaid ag awtistiaeth

13/05/2024

Cau pwll nofio ym Mhontardawe yn ergyd i efeilliaid ag awtistiaeth

Mwynhau amser hamdden yn y dŵr. Mae merched Betsan, Brielle a Bowan wrth eu bodd yn defnyddio'r pwll nofio ym Mhontardawe.

Mae'r efeilliaid yn awtistig ac mae ganddyn nhw anghenion penodol. Yn ôl Betsan, mae defnyddio'r pwll sydd wedi'i gynhesu yn helpu gyda'u hiechyd corfforol a meddyliol.

"Man hyn fi'n gallu dod â nhw a maen nhw'n joio. Mae pawb yn hollol gynhwysol a chyfeillgar at fy mhlant i. Dw i'n joio dod â nhw.

"Mae cymwysterau, mae hoists yma a phopeth i blant ac oedolion anabl."

Yn ôl Betsan yng Nghastell-nedd mae'r pwll nofio agosaf ond does gan y pwll ddim yr un cyfleusterau sy'n addas i'r merched.

"Bydd hi'n fwy prysur 'na. Bydd y plant yn fwy tebygol o gael meltdowns ac yn fwy costus o ran trafeili. Fi'n teimlo bod teulu fi'n cael ei gwahaniaethu."

Er i 2,000 o bobl arwyddo deiseb i geisio cadw'r pwll ar agor mae'r cyngor wedi penderfynu fod yr adeilad yn rhy beryglus. Yn ogystal â chau'r adeilad mae'r cyngor hefyd yn penodi £30,000 ar gyfer astudiaeth i edrych ar y posibilrwydd o ddarparu pwll newydd i'r ardal.

Gallai hynny gostio rhwng £10 miliwn a £12 miliwn.

"Y broblem ar hyn o bryd yw cael yr arian i wneud 'na. Ac unrhyw bwll newydd, bydd rhaid cael arian o'r Senedd neu wrth San Steffan ar gyfer yr adeiladu.

"Maen nhw'n dweud dyle fod pwll nofio mewn rhyw 20 munud o'ch ty. Mae Castell-nedd dim ond jyst dros yr 20 munud so ni'n deall bod eisiau pwll nofio yma.

"Gyda'r feasibility study, ni'n gobeithio bydd rhywbeth yn dod."

Heb gynllun penodol, os bydd pwll nofio yn agor ym Mhontardawe bydd yn rhaid i Betsan a'i theulu aros i glywed pryd y gallan nhw fwynhau nofio yn y dref unwaith eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.