Newyddion S4C

Ymosodiad cŵn ar 70 o ddefaid yn 'un o’r gwaethaf i mi weld yn fy ngyrfa'

14/05/2024
Y Llinell Las Iwan Owen

Mae un o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi sôn am un o’r ymosodiadau cŵn gwaethaf iddo weld yn ei yrfa.

Fe laddwyd 22 o ddefaid oedd yn cario wyn yn yr ymosodiad a chafodd 48 arall eu hanafu.

Cafodd yr ymosodiad gan ddau gi XL Bully ar fferm ger Wrecsam ei ddal ar gamerâu cyrff y swyddogion wrth iddyn nhw ffilmio cyfres newydd Y Llinell Las ar gyfer S4C.

Collodd y ffermwr gwerth tua £14,000 o anifeiliaid.

Yn ôl Iwan Owen, aelod o’r tîm Troseddau Cefn Gwlad sydd â dros 40 mlynedd o brofiad gyda’r Heddlu, mae ymosodiadau ar ddefaid yn digwydd yn wythnosol yng ngogledd Cymru.

“Mae’n siŵr bod y gang traffig yn cael llond bol o bobl sy’n yfed a gyrru. Wel, i ni, y poeni defaid sydd yn dod drosodd a drosodd.

“Be uffern ma' rywun isho XL Bully? Dwi'm yn dalld pam bo chdi isio ci o’r ffasiwn beth mewn tŷ, mewn cartref. Meddylia pa mor gryf ydyn nhw, faint o niwed fysa nhw’n medru neud – mae’n beryg bywyd.”

“Maen nhw [ffermwyr] yn hogia’ calad – maen nhw ‘di hen arfer efo cŵn a chael gafael ar gi, ond fysa chdi ddim yn cymryd gafael ar XL Bully.

"Does 'na ddim llawer o chance i chdi gerdded o ‘na heb gael dy anafu yn ofnadwy.”

'Pleser'

Mae cŵn hefyd yn rhan hanfodol o waith yr heddlu, meddai un plismon.

Mae'r Cwnstabl Siôn Parry yn swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru ers dros 15 mlynedd a gweithio i’r Uned Gŵn yw uchelgais ei yrfa.

Dywedodd bod un ci cyfwerth â deg o blismyn.

“Dwi bob tro yn cymharu ci i ddeg plisman. A mwy weithiau. Ma' pobl isio cwffio efo plismyn, s’neb isio cwffio efo ci.

Image
PC Sion Parry
Mae'r Uned Gŵn yn un o bump uned sydd dan sylw yng ngyfres Y Llinell Las.

“Ti’n mynd at rywun a deud wrthyn nhw i adael a ma’ ‘na gi yn glafoerio ac yn cyfarth – ti’n gadael, dwyt, os ti’n gall.

“Ma’n bleser ei gwatchad nhw’n gweithio...Ddim fi sy’n neud y gwaith – y ddau gi ‘di’r petha’ clyfar, jyst y chauffeur dwi!”

Yn ogystal â’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad a’r Uned Gŵn, mae’r gyfres 6 pennod wedi cael mynediad at waith heriol yr Uned Traffig, yr Uned Gwrthdrawiadau a’r Swyddfa Reoli yn Llanelwy.

Bydd modd gweld pennod gyntaf cyfres newydd Y Llinell Las ar S4C am 21:00 ddydd Mawrth 14 Mai, a hefyd ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.