Pecyn cymorth i gefnogi cymuned LHDTC+ Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer Pride Cymru.
Fe fydd y pecyn yn sefydlu cefnogaeth i’r mudiad a help i ddatblygu digwyddiadau ar lawr gwlad ledled Cymru.
Wrth i Fis Pride ddirwyn i ben, amlinellodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, mesurau’r pecyn a fyddai, yn ôl y Gweinidog, yn helpu i sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.
“Mae ein record o gefnogaeth i’r gymuned LGBTQ+ yma yng Nghymru yn un y gallwn ni ymfalchïo ynddi – o ddiwygio’r cwricwlwm i gynnwys addysg am LGBTQ+ i sefydlu gwasanaeth arloesol hunaniaeth o ran rhywedd, a mynd ati cyn un o genhedloedd eraill y DU i gynnig PReP yn rhad ac am ddim o fewn y GIG,” dywedodd.
“Yn ystod cyfnod Covid-19 fe wnaethon ni sefydlu grant ar gyfer lleoliadau LGBTQ+, a’r mis yma rhoddodd Prif Weinidog Cymru waed ochr yn ochr â gweithredwyr dros hawliau pobl hoyw a oedd, tan nawr, wedi’u gwahardd rhag rhoi eu gwaed.
“Dyw cynnydd ddim yn rhywbeth anochel byth, a dyna pam mae cymaint yn rhagor i’w wneud.”
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn darparu £25,000 o gyllid Newydd ar gyfer Pride Cymru, ac yn addo sefydlu mwy o gefnogaeth ac arian yn y dyfodol.
Mae’r arian yn cael i ddefnyddio i sefydlu Panel Arbenigol LHDTC+ yn swyddogol i helpu i roi ein cynllun ar waith ac i ddal y Llywodraeth yn atebol, yn ogystal i sicrhau bod agweddau o’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn cael eu datganoli.
Bydden nhw hefyd yn defnyddio’r arian i gomisiynu cyngor cyfreithiol ar bob pŵer sydd ar gael i wahardd Therapi Newid Cyfeiriadedd Rhywiol yng Nghymru, ac yn penodi cydgysylltydd Pride cenedlaethol i gefnogi holl waith y llywodraeth yn y maes hwn.