Galw am 'drawsnewid' gofal mamolaeth ac ôl-enedigol yn y DU
Mae ymchwiliad a gafodd ei sefydlu i ddarganfod pam fod rhai merched yn wynebu profiad trawmatig wrth roi genedigaeth wedi galw am drawsnewid gofal mamolaeth ac ôl-enedigol yn y DU.
Fe wnaeth yr Ymchwiliad Trawma Geni, sy'n cael ei arwain gan grŵp trawsbleidiol o ASau, glywed tystiolaeth "dirdynnol" gan fwy na 1,300 o ferched.
Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys penodi comisiynydd mamolaeth newydd a fyddai'n adrodd yn uniongyrchol at y prif weinidog.
Fe fydd canfyddiadau'r adroddiad yn cael eu cyflwyno i weinidogion ddydd Llun.
Mae disgwyl wedyn i'r Ysgrifennydd Iechyd, Victoria Atkins amlinellu ymateb y llywodraeth.
Y gred yw bod 30,000 o ferched bob blwyddyn yn y DU wedi wynebu profiadau negyddol wrth roi genedigaeth, gydag un ymhob 20 yn datblygu anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD).
Mae'r adroddiad yn galw am "safon sylfaenol mewn gwasanaethau mamolaeth" ar draws y DU a diwedd ar y "loteri cod post" o ofal pan yn feichiog a'r flwyddyn wedi geni'r babi.
Ychwanegodd y dylai mamau gael "mynediad cyffredinol at wasanaethau iechyd meddwl mamol arbenigol ar draws y DU".
Fe wnaeth yr adroddiad hefyd alw ar y llywodraeth i amlinellu sut y byddant yn "recriwtio, hyfforddi a chadw bydwragedd" er mwyn sicrhau "lefelau diogel o staffio mewn gwasanaethau mamolaeth".