Newyddion S4C

Lluniau: Goleuadau’r gogledd i’w gweld yn glir o Gymru

Goleuni'r Gogledd

Mae goleuadau’r gogledd wedi bod yn weladwy o ogledd i dde Cymru wrth i un o'r stormydd geomagnetig cryfaf daro’r ddaear mewn dau ddegawd brynhawn Gwener.

Mae stormydd geomagnetig yn digwydd pan fydd yr haul yn rhyddhau gronynnau wedi'u gwefru tuag at y Ddaear.

Wrth iddyn nhw gyrraedd magnetosffer y ddaear maen nhw’n weladwy ar ffurf llenni o oleuni.

Roedd cyfuniad o storm o’r fath ac awyr clir yn golygu bod goleuadau’r gogledd, neu’r aurora borealis, yn weladwy llawer pellach i’r de ar draws Ewrop na sydd yn arferol.

Mae Gweinyddiaeth Genedlaethol Cefnforol ac Atmosfferig yr Unol Daleithiau (NOAA) wedi cyhoeddi rhybudd am storm solar.

Fe allai stormydd ar y raddfa hon o bosibl effeithio ar loerennau a’r grid pŵer, medden nhw.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod disgwyl i oleuni'r gogledd barhau yn weladwy, ond ar raddfa lai, nos Sadwrn hefyd.

Dyma rai o luniau ein darllenwyr o’r goleuadau.

Image
Dihewyd gan Lleucu Ifans
Dihewyd gan Lleucu Ifans
Image
Machynlleth gan Carys Morris
Machynlleth gan Carys Morris
Image
Penegoes gan Eirian Davies
Penegoes gan Eirian Davies
Image
Bethesda Bach Catherine Young
Bethesda Bach gan Catherine Young
Image
Y Ferwig yng Ngheredigion gan Bethan Cadwaladr-Lewis
Y Ferwig yng Ngheredigion gan Bethan Cadwaladr-Lewis
Image
Morfa Nefyn gan Marina Parry Owen
Morfa Nefyn gan Marina Parry
Image
Eglwys Gadeiriol Dewi Sant
Eglwys Gadeiriol Dewi Sant
Image
Dwyran Mon Lowri Owen
Dwyran gan Lowri Owen
Image
Aberdaron Liz Jones
Aberdaron gan Liz Jones
Image
Gallt y Foel Deiniolen
Gallt y Foel Deiniolen, gan Rachel Williams
Image
Croes-lan, Llandysul
Croes-lan, Llandysul
Image
Porthdinllaen gan Caryl Jones
Porthdinllaen gan Caryl Jones
Image
Llanberis gan Carys Chiv Williams
Llanberis gan Carys Chiv Williams
Image
Castell Dolbadarn Llanberis gan Glyn Hughes
Castell Dolbadarn Llanberis gan Glyn Hughes
Image
Lerpwl gan Peter Byrne / PA
Lerpwl gan Peter Byrne / PA
Image
Lerpwl gan Peter Byrne / PA
Lerpwl gan Peter Byrne / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.