Newyddion S4C

Arweinydd newydd ar gyngor Sir Benfro

10/05/2024
Jon Harvey

Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi ethol arweinydd newydd wedi i’w ragflaenydd gamu o’r neilltu.

Fe enillodd Jon Harvey, sy’n gynghorydd annibynnol, yr etholiad yn erbyn Di Clements, sy’n arweinydd y grŵp Ceidwadol ar y cyngor.

Daw wedi i David Simpson gyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu wedi saith mlynedd yn y swydd.

Gwelodd pleidlais gudd 30 pleidlais i’r Cynghorydd Harvey, i 27 i’r Cynghorydd Clements, gyda dau yn ymatal.

Dywedodd Jon Harvey nad oedd y cyfrifoldeb o gymryd rôl yr arweinydd “yn un dwi’n ei gymryd yn ysgafn,” gan ddweud y byddai’n dod â “thosturi a thryloywder” i’r swydd.

Dywedodd fod angen i'r grwpiau gwleidyddol gydweithio er lles Sir Benfro.

“Os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd at nod gyffredin, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r trigolion rydym yn eu gwasanaethu,” meddai.

“Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd; nid oes gennyf i na'r Cabinet fonopoli ar syniadau da, siaradwch â ni. 

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r holl grwpiau gwleidyddol yn rheolaidd i’r perwyl hwnnw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.