Newyddion S4C

Pobl ifanc am weld mwy o fuddsoddiad yn ardal lechi Gwynedd

Newyddion S4C 09/05/2024

Pobl ifanc am weld mwy o fuddsoddiad yn ardal lechi Gwynedd

Bron i dair blynedd ers i ardaloedd chwarelyddol y gogledd orllewin gael eu dynodi'n safle UNESCO treftadaeth y byd, mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu bod pobl ifanc y fro am weld mwy o fuddsoddiad economaidd a chyfleoedd addysg i ymwelwyr.

Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Bangor, mae ‘na alw am fwy o gyfleoedd i bobl ifanc yr ardal i fanteisio ar y statws.

Fe gafodd tirwedd chwarelyddol y gogledd orllewin ei dynodi’n safle UNESCO yn 2021 gan ymuno â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward y Cyntaf yng Nghymru ar y rhestr o leoliadau nodedig.

Yn ôl un fu ynghlwm â’r cais gwreiddiol, fe allai gymryd "nifer o flynyddoedd" nes bydd gwir effaith economaidd y statws yn dod i’r amlwg.

Mae’r ardal yn cynnwys hen ardaloedd chwarelyddol Gwynedd gyda’r statws yn galluogi i Gyngor Gwynedd a mentrau lleol wneud cais am fwy o gyllid i ddatblygu treftadaeth yr ardal.

Ond yn ôl gwaith ymchwil gan Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor, mae pobl ifanc yr ardal am weld mwy yn digwydd i wella cyfleoedd gyrfaol ac addysg.

“Natho ni gyfweld dros 30 o bobl ifanc rhwng 18-25 a rhain wedi tyfu fyny yn yr ardal,” medd Dr Sara Parry sy’n Uwch Ddarlithydd Marchnata yn y brifysgol.

Image
Dr Sara Parry

“Natho ni holi nhw am eu persbectif o’r statws ac oedd rhai yn cwestiynu os oedd jest yn deitl a bod nhw isho gweld mwy o fuddsoddiad yn yr ardal,” meddai.

“Oedda nhw’n meddwl am wella sgiliau nhw, yn meddwl am eu gyrfaoedd nhw ac oedda nhw eisiau aros yma gan bod nhw’n caru’r lle ond roedd nhw eisiau gweld swyddi o ansawdd yn dod yma ar ôl cael y statws newydd.”

Ychwanegodd Dr Parry fod yr ymchwil yn dangos balchder pobl ifanc yn eu bro.

'Lle i ddysgu am ein diwylliant a'n hiaith'

Mae Ysgol Brynrefail yn gorwedd yng nghysgod chwarel Dinorwig ac mae rhai o ddisgyblion y chweched dosbarth yn cytuno â’r angen am fwy o fuddsoddiad.

Yn ôl Gruff, sy’n 17, mae angen sicrhau mwy o gynlluniau yn lleol i addysgu ymwelwyr.

“Mae angen bod yn amlycach i’r ymwelwyr sy’n dod yma be' ydi’r hanes, trio annog nhw i ddysgu am y chwarel a phethau sy’n amgylchynu’r wyddfa nid dim ond y llyn – mae na fwy iddi na hynny,” meddai.

Yn ôl Branwen, 17 ,“y gwreiddiau yma sy’n bwysig”.

“Ella bod nhw yn dod yma yn yr haf am eu gwyliau a ddim yn sylwi ar y gwreiddiau sydd tu ôl i’r ardal ac i bobl sy’n byw yma fel ni, dyna ydi’r peth pwysicaf am yr ardal yr hanes,” meddai.

Image
Plant Ysgol Brynrefail

“Dw i’n gobeithio bydd mwy yn dod yma ac yn lle trin o fel maes chwarae – bod o’n lle i ddysgu am ein diwylliant a'n hiaith,” meddai Gwern sy’n 17.

Ac yn ôl Luned, 17, mae hi am weld mwy o gyfleoedd am swyddi o ansawdd da yn dod yn sgil y statws.

“Dwisho hefyd gweld mwy yn digwydd gyda’r pentrefi o amgylch Llanberis, llefydd fel Llanrug a Waunfawr,” meddai.

Mae dynodi’r statws UNESCO ar yr ardal yn gosod y rhanbarth yn yr un dosbarth â'r Taj Mahal yn India, y Pyramidiau yn yr Aifft a theml Ankor Watt yn Cambodia - yn denu rhagor o ymwelwyr ac yn hwb i economi'r gogledd-orllewin.

Ond yn ôl un fu wrth galon yr ymgyrch i ddenu’r statws, fe allai gymryd blynyddoedd i weld ffrwyth llafur y gwaith.

“Swni’m yn disgwyl y byddwn i’n gweld ffrwyth llafur hyn am bedair/pum mlynedd arall,” meddai’r Arglwydd Dafydd Wigley.

“Mae pethau yn digwydd rŵan, roedd 80 o bobl o 30 o wledydd wedi dod i Lanberis yn ddiweddar oherwydd y statws.

“Mae’r peth yn digwydd, ‘dio ddim bob amser yn weladwy ond dros gyfnod fydd o’n adeiladu at yr economi ac hefyd y cyfleon i bobl ifanc.”

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae nhw’n deall y "rhwystredigaeth" ond yn mynnu fod “datblygu unrhyw gynlluniau i fanteisio ar y dynodiad angen amser i’w datblygu ac rydym yn hyderus y bydd pobl yn gweld datblygiadau cadarnhaol o fewn eu cymunedau dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod”.

Ychwanegodd llefarydd bod hynny yn cynnwys £26m trwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a phartneriaid i weithredu cynlluniau ym Methesda, Llanberis a Blaenau Ffestiniog a buddsoddiad sylweddol i’r amgueddfa lechi ynghyd a sawl prosiect arall.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.