Teyrngedau i fam i 10 o blant fu farw mewn tân yn Sir y Fflint
Mae teulu mam i 10 o blant fu farw mewn tân yn Sir y Fflint wedi rhoi teyrngedau iddi.
Bu farw Kelly-Marie Watton, 32, yn dilyn tân yn Nhreffynnon ar 20 Mehefin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 01:30 i eiddo ar heol Moor Lane yn y dref.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i gynorthwyo Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru yn eu hymchwiliad i achos y tân.
Wrth roi teyrngedau i Ms Watton, cafodd ei disgrifio fel "bywyd ac enaid bob parti."
Dywedodd datganiad ar ran ei theulu: "Roedd Kelly-Marie Watton yn un o chwech o blant, gyda thair chwaer a dau frawd.
"Roedd hi'n fam i 10 o blant yr oedd yn eu caru'n fawr iawn.
"Roedd hi'n adnabyddus iawn ac yn hoffus iawn hefyd, ac yn cael ei disgrifio fel bywyd ac enaid bob parti."
Ychwanegodd y deyrnged fod y teulu wedi eu dryllio gan y farwolaeth ac y bydd colled enfawr ar ei hol.