Bas data newydd 'yn esgus i ddileu enwau Cymraeg'
Bas data newydd 'yn esgus i ddileu enwau Cymraeg'
Ewch ar frys i Bant yr Eglwys neu Graig yr Wylfa neu yw The Zig Zag a Camel's Humps yn fwy eglur?
Mewn argyfwng mae osgoi oedi, dryswch, neu wastraffu amser yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng byw neu farw. I'r gwasanaethau brys, mae cael cliwiau i leoliadau'n allweddol.
Gydag enwau tebyg mewn sawl ardal hefyd mae gwasanaeth mapio Yr Arolwg Ordnans yn bwriadu rhannu bas data o enwau Cymru i'w helpu i gyrraedd ynghynt.
"Bydd e'n helpu oherwydd bod sut gymaint o enwau lleol. Pan mae pobl mewn argyfwng, dydyn nhw ddim yn meddwl yn glir. Maen nhw'n gwybod lle maen nhw ond efallai yr enw lleol.
"O'n i yn y Mwmbwls ger Abertawe ac mae llefydd o amgylch Bae Langland gydag enwau fel Nightmares a Snaple Point. Pe buasai rhywun yn dweud bod nhw fan'na, er bod technoleg yn gallu helpu le chi'n mynd i hala'r tîm?
"Ond pan mae rhywbeth yn dweud Snaple Point, Bae Langland ni'n gwybod le i fynd."
Enwau poblogaidd neu rhai ar lafar sy'n cael eu cynnig ar gyfer ryw 9,000 o leoliadau ar draws Prydain. Ym Mro Morgannwg er enghraifft mae traeth gerllaw o'r enw Cwm Bach yn newid i fod yn Jacobs Ladder.
Yng Ngwynedd, mae Porth yr Afon yn troi'n The Haunted House ac yn Nyfed, mae Tywyn Bach yn newid i fod yn Teletubby Hill. Pe bai damwain yn digwydd i chi a byddwch angen help be fydde chi'n dweud wrth y gwasanaethau brys?
"Gobeithio na fydd hynny'n digwydd ond mi fyddwn i'n dweud 'mod i ar lethrau mynydd Pen yr Ole Wen."
I'r digrifwr Tudur Owen, does yna ddim yn ddoniol am y drefn.
"Gallai weld pam maen nhw'n ei ddefnyddio fo. Mae'n ddadl gryf sy'n chwarae ar emosiynau pobl. Mae'n bwnc emosiynol ac yn ddadl annheg iawn i ddefnyddio ac i roi guilt trip arnom ni i roi esgus i nhw ddileu enwau Cymraeg a'r iaith o'r tirwedd yma. Bydd hynny am byth!"
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn un gwasanaeth sydd eisoes yn defnyddio'r system newydd gan ei disgrifio fel un defnyddiol.
I eraill mae'n gam diangen ar draul y Gymraeg a'i threftadaeth.