Newyddion S4C

Cyngor Ceredigion i gau pwll padlo Aberystwyth

Newyddion S4C 28/06/2021

Cyngor Ceredigion i gau pwll padlo Aberystwyth

Mae Cyngor Ceredigion yn bwriadu cau pwll padlo Aberystwyth

Mae'r pwll wedi cynnig adloniant i genedlaethau o blant, ond wedi i seiliau'r pwll gael eu difrodi gan stormydd y bwriad yw ei lenwi a'i droi yn lle i eistedd.

Ymateb cymysg sydd wedi bod i'r newyddion yn lleol.

“Fydd o'n golled fawr, colled i'r plant, odd o jyst yn lle bach yn gallu cwrdd fyny yn ddigon hawdd efo ffrindiau,” meddai un rhiant wrth raglen Newyddion S4C.

Un arall sydd ag atgofion melys o’r pwll yw perchennog Gwesty’r Richmond yn y dref, ond mae Richard Griffiths yn cydnabod bod rhaid bod yn realistig.

“Oedd Mam-gu’n cymryd ni 'na fel plant, y tri o honnom ni, ag oeddem ni yna trwy'r dydd yn lolian o gwmpas yn y pwll padlo tra bo hi'n eistedd ar y fainc yn siarad efo hen gymeriadau oedd hi'n nabod, odd e'n rhan o bod yma yn y dre,” meddai.

“I fod yn realistig does gan Gyngor Ceredigion ddim lot o ddewis, ma' fe'n mynd i gostio lot o arian i ail gwneud paddling pool newydd sbon.

“Byse well gennym weld y prom yn cael ei gadw'n daclus ac yn drefnus na 'paddling pool' sy'n mynd i gostio llawer iawn o arian, falle na fyddai’n cael ei ddefnyddio pe bai’r tywydd ddim yn dda dros yr haf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.