Newyddion S4C

Gwrthwynebiad lleol i greu maes carafanau newydd ar Ynys Môn

09/05/2024
datblygiad borth

Fe fydd datblygiad dadleuol i greu safle i 55 o garafanau ger pentref ar Ynys Môn yn cael ei drafod gan gynghorwyr yr ynys ddydd Iau. 

Mae'r cais cynllunio ger Ffordd Pentraeth ym Mhorthaethwy wedi codi pryderon ymysg rhai yn y gymuned leol am faint y datblygiad. 

Mae swyddogion cynllunio'r cyngor o blaid caniatau'r datblygiad, sydd ar dir amaethyddol ar Fferm y Wern. Ond mae dau gynghorydd lleol a'r cyngor cymuned yn dweud eu bod yn bryderus iawn am y cynllun.

Fe fydd golchdy, derbynfa a swyddfa hefyd yn cael eu hadeiladu ar y safle yn ogystal ag adeiladu lonydd newydd ar y safle. 

Mae'r safle, sydd ar hyn o bryd yn dir amaethyddol, tua 2 cilomedr i'r gogledd o Borthaethwy yn ardal Cyngor Cymuned Cwm Cadnant.

'Pryderon enbyd'

Mae'r Cynghorwyr Carwyn Jones ac Alun Roberts wedi galw'r cais o flaen y pwyllgor, a hynny oherwydd "gwrthwynebiad cryf gan y Cyngor Cymuned".

Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Roberts ei fod yn gwrthwynebu oherwydd "pryderon enbyd gyda'r fynedfa i lôn hynod brysur a pheryglus, colli tir amaethyddol da a diffyg isadeiledd a/neu gwasanaethau lleol yn ardal y safle".

Mae'r cyngor wedi derbyn deg llythyr o wrthwynebiad i'r datblygiad, ac un llythyr o gefnogaeth.

Y prif sylwadau yn y llythyr o gefnogaeth oedd y byddai'r datblygiad yn "cefnogi busnesau lleol ac yn hybu twristiaeth".

Dywedodd y gwrthwynebwyr eu bod yn poeni am fynediad a diogelwch ffyrdd, sŵn o’r datblygiad ac effaith ar eiddo preswyl cyfagos, a bod gormod o safleoedd gwyliau eisoes yn yr ardal. 

Roedd yna bryderon hefyd am gynaliadwyedd y safle, yr effaith ar yr iaith Gymraeg a'r effaith ar lwybr cyhoeddus. 

'Blaenoriaeth'

Ond mae swyddogion cynllunio'n dweud  fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi "cadarnhau bod y fynedfa, parcio a gwelededd o’r fynedfa bresennol yn ddigonol ar gyfer y datblygiad."

Mae nhw'n dweud fod y datblygiad wedi ei leoli "gryn bellter" oddi wrth eiddo preswyl cyfagos, a dydi'r swyddogion ddim yn derbyn fod "gormod o safleoedd gwyliau yn yr ardal".

Mae'r adroddiad hefyd yn gwadu bydd y datblygiad yn cael  cael effaith "negyddol" ar y Gymraeg, ac fe fydd amod yn cael ei osod i sicrhau fod yr holl arwyddion yn ddwyieithog a'r "Gymraeg yn cael blaenoriaeth". 

Mae'r swyddogion cynllunio'n argymell caniatau'r cynllun gyda 21 o amodau, gyda nifer o'r rhain yn ymwneud â diogelwch y briffordd a'r fynedfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.