Newyddion S4C

Profion arloesol yn adfer clyw merch 18 mis oed

09/05/2024
opal sandy.png

Mae merch fyddar 18 mis oed bellach yn gallu clywed ar ôl bod y person cyntaf i gymryd rhan mewn profion arloesol.

Fe gafodd Opal Sandy ei geni yn fyddar, ond yn sgil therapy genynnau sy'n cael ei dreialu yn y DU ac yn rhyngwladol, mae ei chlyw hi "bellach bron yn normal".

Dywedodd  ei rhieni, Jo a James Sandy, sy'n byw yn Sir Rhydychen, nad oedden nhw'n gallu coelio fod Opal,  yn gallu clywed heb yr angen am fewnblaniad yn y cochlea (cochlear implant)

Mae gan y cwpl ferch bump oed, Nora, sydd hefyd yn fyddar ac yn gwisgo'r ddyfais. 

Dywedodd Mrs Sandy eu bod wedi darganfod fod Nora yn fyddar pan oedd hi'n naw mis oed, a dywedodd fod meddygon wedi rhybuddio y byddai unrhyw un o'u plant yn y dyfodol angen profion clywed ychwanegol ar ôl eu geni. 

"Er bod Nora ac Opal wedi pasio'r profion clywed ar ôl eu geni, sy'n canfod y mwayfrif o fyddardod, pan roedd Opal yn newydd-anedig, fe aeth am brawf ychwanegol ac fe wnaethom ni ddarganfod ei bod hi'n fyddar yn bedwar diwrnod oed," meddai Mrs Sandy.

Image
opal
Opal gyda'i chwaer, Nora, a'i rhieni Jo a James.

Fe gafodd y teulu glywed am y treial therapi gennynau yn eu ysbyty lleol yn Rhydychen. 

"Ein hymateb cyntaf ni oedd ein bod ni yn nerfus iawn, ac ei fod yn teimlo'n rhy dda i fod yn wir.

"Roeddem ni yn eithaf nerfus i ddewis llwybr oedd yn wahanol i'r un oedd wedi gweithio mor dda i'n merch hynaf, ond roedd yn teimlo fel cyfle unigryw iawn.

"Roeddem ni'n gwybod hefyd hyd yn oed os na fyddai'n llwyddiannus, byddai Opal dal yn gymwys i gael mewnblaniad yn y cochlea yn ei chlust arall chwe mis yn ddiweddarach."

Derbyniodd Opal y therapi yn ei chlust dde mewn llawdriniaeth ym mis Medi y llynedd. Ar yr un pryd, fe gafodd fewnblaniad yn y cochlea yn ei chlust chwith er mwyn sicrhau ei bod yn gallu clywed. 

Image
opal

Er yr aros i weld a oedd y prawf wedi bod yn llwyddiannus, daeth yn amlwg yn eithaf sydyn fod Opal yn gallu clywed. 

"Fe ddigwyddodd o tua tair wythnos ar ôl y llawdriniaeth, a thua wythnos ar ôl i'r ddyfais gael ei throi ymlaen," meddai Mrs Sandy.

"Roeddem ni yn ceisio gwneud synnau uchel i weld a oedd hi'n clywed, ac ro'n i'n arbrofi gyda'r ddyfais heb sylwi fod y ddyfais wedi disgyn i ffwrdd.

"Fe wnaeth hi droi o gwmpas yn sgil y sŵn clapio uchel. Pan drodd hi gyntaf, doeddwn i ddim yn credu'r peth."

Ychwanegodd Mrs Sandy: "Doeddwn i byth yn meddwl y byddai Opal yn gallu ymateb i sŵn heb wisgo mewnblaniad."

Tua 24 wythnos ar ôl y llawdriniaeth, fe wnaeth profion ddangos fod Opal hefyd yn gallu clywed synnau ysgafn gan gynnwys sibrwd, ac mae bellach yn gallu clywed yn dda heb y mewnblaniad yn ei chlust chwith.

"Heb y mewnblaniad, mae hi fwy neu lai yn gallu clywed union yr un pethau ag y mae hi pan yn ei wisgo," meddai Mrs Sandy. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.