Newyddion S4C

Dyn wedi marw ar ôl disgyn o fynydd yn Eryri

08/05/2024
Y Gully, Tryfan

Mae dyn wedi marw wedi iddo ddisgyn oddi ar fynydd yn Eryri ar ddydd Llun Ŵyl y Banc.

Fe wnaeth y dyn, a oedd yn cerdded gyda'i ddau frawd, ddioddef anafiadau sylweddol wrth gerdded ar fynydd Tryfan.

Cafodd y gwasanaethau brys a Thîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i grib ogleddol Tryfan er mwyn helpu i chwilio am eu lleoliad.

Dywedodd llefarydd ar ran y tîm achub eu bod nhw wedi dod o hyd i'r brodyr, a oedd wedi cynorthwyo'r gweithwyr achub i leoli eu brawd.

Bu farw'r dyn o'i anafiadau, ac fe gafodd y ddau frawd eu rhaffu i dir diogel.

Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen bod eu meddyliau gyda theulu'r dyn fu farw.

Llun: Alan O'Dowd / Geograph

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.