Newyddion S4C

TSB i gau 36 o ganghennau a thorri 250 o swyddi

08/05/2024
Banc TSB

Mae grŵp bancio TSB wedi cyhoeddi eu bod yn cau 36 o ganghennau ac yn torri 250 o swyddi ar draws y busnes.

Yng Nghymru, bydd y cwmni yn cau canghennau yng Nghaerfyrddin, Cwmbrân a'r Fflint.

Bydd y broses o gau'r canghennau yn dechrau yn mis Medi, ac yn parhau hyd at fis Mai y flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Nid yw’r penderfyniad i gau cangen byth yn cael ei wneud yn ysgafn, ond mae ein cwsmeriaid bellach yn gwneud y rhan fwyaf o’u bancio’n ddigidol ac mae angen i ni symud i gydbwysedd gwell o wasanaethau digidol ac wyneb yn wyneb.

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i rwydwaith o ganghennau cenedlaethol, a thrwy arloesi ac integreiddio â gwasanaethau fideo, ffôn, digidol, cangen a gwasanaethau wyneb yn wyneb eraill mae gan gwsmeriaid TSB fwy o ffyrdd i fancio gyda ni nag erioed o’r blaen.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.