Newyddion S4C

Cais i ehangu mynwent ym Môn o achos 'angen brys' am ragor o leoliadau claddu

08/05/2024
mynwent cemaes

Mae’n bosib y bydd mynwent mewn pentref ar Ynys Môn yn ehangu a hynny o achos yr angen “brys” i ddatblygu mwy o leoliadau claddu.

Gan fod lle yn mynd yn brin ym mynwent Y Rhyd yng Nghemaes, mae cyngor yr ynys wedi derbyn cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol i ymestyn y cyfleuster.

Cyngor Cymuned Llanbadrig sydd wedi cyflwyno'r cais i Gyngor Sir Ynys Môn.

Mae’r fynwent bresennol ar arfordir gogleddol yr ynys bellach dros 90% yn llawn “gydag efallai 20 o leiniau claddu pellach ar gael,” medd y cais cynllunio

Mae’r cais yn ychwanegu: “[Mae hyn] yn cyfateb i uchafswm o ddwy flynedd dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’n hanfodol felly fod cyfleusterau lleol ychwanegol ar gael o fewn cyfnod byr.

“Ystyrir nad oes unrhyw safleoedd lleol eraill a allai fodloni’r angen brys hwn yn briodol.”

Arolwg

Mae hefyd yn cyfeirio at y tir yn cael ei “glustnodi’n hanesyddol” gan y cyngor at ddiben ehangu’r fynwent, gydag arolwg cychwynnol wedi’i gynnal.

Byddai'r safle yn cael ei uno gyda'r fynwent bresennol i'r dwyrain a'r de.

Mae’r cynlluniau’n ychwanegu: “Y safle yw’r orffwysfan olaf i lawer o aelodau o deuluoedd o fewn y gymuned leol.

“Byddai’r estyniad arfaethedig yn darparu lleoedd ychwanegol i aelodau pellach o’r teuluoedd hynny sy’n agos, i gyd o fewn yr un cyfleuster cyffredinol, gan ddarparu cyfleustra yn lleol a lleihau’r angen i deithio.”

Mae'r plot arfaethedig hefyd yn cael ei ystyried yn “ddelfrydol fel estyniad naturiol i'r cyfleuster presennol” sydd heb “angen gwaith adeiladu”.

Byddai hefyd yn “darparu cyfleuster digonol ar gyfer y gymuned leol am ddegawdau lawer i ddod, gan gynnal swyddogaeth a chymeriad y fynwent bresennol”.

Mae’r cynlluniau hefyd yn dweud: “Mae’r tir wastad wedi’i glustnodi ar gyfer defnydd fel estyniad i’r fynwent gan fod hwn yn angen gor-redol ac yn fuan ni fydd unrhyw lefydd beddau ar gael yn yr ardal."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.