Newyddion S4C

Asthma: Menyw 'wedi colli cyfrif' ar nifer ei hymweliadau ysbyty

ITV Cymru 08/05/2024
Lisa Hall

Mae menyw sydd yn byw gydag asthma "wedi colli cyfrif" ar pa mor aml yr aeth i'r ysbyty oherwydd y cyflwr.

Dywedodd, Lisa Hall, gwyddonydd biofeddygol o Gasnewydd, ei bod hi’n cael trafferth gyda’i hanadlu’n ddyddiol.

Mae nifer o sefyllfaoedd yn gwaethygu ei asthma meddai gan gynnwys cynnyrch glanhau, tywydd poeth a phaill. 

Mae elusen iechyd Asthma + Lung UK Cymru yn galw ar bobl i gymryd camau i ystyried gwell rheolaeth o sefyllfaoedd all sbarduno asthma mewn dioddefwyr.

Dywedodd yr elusen "y byddai’n helpu lleihau symptomau ac atal trawiadau.”

Fe wnaeth ymchwil newydd hefyd ddangos mai’r sbardun mwyaf i ddioddefwyr yng Nghymru yw annwyd neu ffliw, neu newidiadau yn y tywydd.

Fe wnaeth Lisa Hall dderbyn diagnosis o asthma difrifol pan oedd hi’n 28 oed.

“Fe wnes i gael fy nigwyddiad cyntaf pan ro’n i’n 29 mlwydd oed, ac ro’n i yn yr ysbyty am 10 niwrnod. Fe wnaeth popeth dawelu dros y misoedd nesaf tan Fehefin 2018 pan aeth pethau'n arbennig o wael, ac mae wedi aros fel hynny," meddai.

“Ar 13 Mawrth (eleni) oedd yr un diwethaf, ac roedd tîm rheoli’r ambiwlans wedi danfon ambiwlans awyr ataf. 

“Mae fy asthma yn anodd iawn ei ragweld, a dwi wedi colli cyfrif sawl gwaith dwi wedi bod i'r ysbyty. Mae pethau’n rhwystredig ar brydiau."

'Yn waeth ac yn waeth'

Yn ôl Ms Hall mae sawl peth sydd yn gallu effeithio ar ei asthma ond un o’r gwaethaf yw pan fod pobl yn chwistrellu persawr neu ddiaroglydd yn gyhoeddus.

Mae gwres, lleithder a phaill hefyd yn ffactorau cyffredin sy’n effeithio ar ei hanadlu. 

“Os dwi’n cerdded mewn i rywle sy’n glòs iawn, dwi jyst yn mynd yn dynn ac yn fyglyd, peswch ac wedyn mae’n mynd yn waeth ac yn waeth.

“Mae’n heriol iawn ac mae’n effeithio ar fy mywyd pob dydd. Mae’n rhaid imi fod yn ymwybodol o’m hamgylchedd, gan fod newidiadau sydyn i’r tywydd neu anadlu fewn cynnyrch glanhau ac aroglau fel persawr a pheraroglydd yn gallu ei gwneud hi’n anodd imi anadlu."

Fe wnaeth yr elusen siarad â 513 o bobl sydd ag asthma yng Nghymru, ac fe wnaeth eu harolwg ddarganfod bod: 

  • 76% wedi dweud bod newidiadau yn y tywydd yn sbarduno eu hasthma 

  • 79% wedi dweud bod annwyd a ffliw yn sbarduno eu hasthma

  • 66% wedi dweud bod ymarfer corff yn sbarduno eu hasthma

Dywedodd Joseph Carter, Pennaeth Asthma + Lung UK Cymru: “Ry’n ni eisiau annog y 314,000 o bobl sydd ag asthma yng Nghymru i ofalu am iechyd eu hysgyfaint trwy fod yn ymwybodol o'r hyn sydd yn ei ysgogi, i gael cynllun gweithredu asthma er mwyn iddyn nhw wybod beth i’w wneud os yw eu symptomau’n gwaethygu, ac adolygu eu meddyginiaeth a thechneg pwmp anadlu gyda’u meddyg teulu neu nyrs yn rheolaidd."

“Mae sbardunau asthma yn gallu bod yn anodd i fynd i’r afael â nhw, ac mae rhai, fel y tywydd a heintiau feirol, yn amhosib i’w hosgoi. 

“Ond os y’n nhw cael eu rheoli’n iawn, ddylai wynebu'r fath sbardun asthma ddim peryglu eich bywyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.