Newyddion S4C

Garddwr o Wynedd yn ysbrydoliaeth i wisg Lewis Hamilton yn y Met Gala

07/05/2024
Lewis Hamilton/John Ystumllyn

Mae’r gyrrwr Formula 1 byd enwog, Syr Lewis Hamilton, wedi dweud fod garddwr du o Wynedd yn ysbrydoliaeth i'w wisg ar gyfer y Met Gala yn Efrog Newydd ddydd Llun. 

Fe gafodd Hamilton ei ysbrydoli gan John Ystumllyn – y garddwr du cyntaf ar gofnod yn y DU, yn ogystal â’r person du cyntaf ar gofnod i siarad Cymraeg yng Nghymru. 

Dywedodd Hamilton ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan “ewyllys John Ystumllyn a harddwch ei waith.”

Cafodd John Ystumllyn ei gludo i ardal Eifionydd yn fachgen ifanc, a hynny fel dioddefwr y fasnach gaethwasiaeth yn y 18fed ganrif.

Cafodd ei gipio o’i famwlad, sef unai o Affrica neu’r Caribî yn ôl cofnodion, a’i gludo i wasanaethu teulu yng Nghriccieth.

Yno fe ddysgodd Gymraeg a Saesneg yn ddyn ifanc cyn gweithio fel garddwr, gan briodi a magu saith o blant ym Mhorthmadog. 

Mae’r Met Gala yn cael ei chynnal gan olygydd cylchgrawn ffasiwn Vogue, sef Anna Wintour, ac eleni thema’r digwyddiad oedd ‘The Garden of Time’.

Roedd Hamilton yn gwisgo siwt ddu gan Daniel Lee a’i dîm o Burberry, gyda phatrwm blodau’n addurno’i siaced.

Roedd hefyd yn gwisgo gemwaith aur, gyda’i fwclis yn ymddangos fel petai’n ddrain rhosyn.

Cafodd rhosyn ei enwi er cof John Ystumllyn yn 2021, a hwn oedd y rhosyn cyntaf i gael ei gyflwyno er cof am berson lleiafrif ethnig yn y Deyrnas Unedig. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.