Newyddion S4C

Rhieni bachgen ag alergedd ‘difrifol’ yn galw ar fwytai i ddatgelu eu holl gynhwysion

07/05/2024
Caitlin a Noa Awadalla

Mae rhieni bachgen sydd ag alergedd "difrifol" i bys a sawl bwyd arall yn galw ar Lywodraeth y DU i'w wneud yn ofynnol i fwytai ddatgelu eu holl gynhwysion.

Mae’n rhaid i Caitlin Awadalla, 35, meddyg o Abertawe, a’i gŵr Widaa, 35, wirio’n ofalus bob cynhwysyn y mae eu mab Noa, saith oed, yn ei fwyta.

Mae gan Noa alergedd i wyth o wahanol fwydydd - gan gynnwys pys, corbys (lentils), gwygbys (chick peas), ffa cannellini, cnau daear, cnau pistasio, a physgod fel tiwna a morlas.

Mae bwyta allan yn heriol i Noa o ystyried bod yn rhaid i fwytai ddarparu gwybodaeth am 14 alergen penodol yn unig.

Nid yw’r rhestr o'r alergenau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnwys pys, corbys, gwygbys, na ffa cannellini.

Er bod rhai bwytai wedi darparu ar gyfer ei anghenion, nid yw eraill yn gallu cyflwyno rhestr gyflawn o gynhwysion sy'n golygu na all fwyta yno. 

Ac mewn rhai achosion, mae bwytai wedi gwrthod gweini bwyd i Noa yn gyfan gwbl.

'Bygwth bywyd'

“Mae ganddo alergedd mor ddifrifol i bys fel hyd yn oed os yw’n cyffwrdd ag un, mae’n cael adwaith,” meddai Ms Awadalla.

“Yn syth bin, maen nhw [gweithwyr mewn bwytai] bob amser yn gofyn, ‘Oes gennych chi alergeddau?’ ac yna'n dod â’r ffolder alergedd allan. 

“Ond fel arfer, dim ond y 14 alergen mwyaf cyffredin y mae’n nhw'n eu cynnwys a thra bod rhai ohonyn nhw yno, fel pysgod a chnau, nid yw pys ar y rhestr. 

“Felly i ni, mae’r ffolder alergedd yn ddiwerth mewn gwirionedd.”

Yn ddiweddar, fe gafodd Noa adwaith alergaidd ar ôl archebu byrger a sglodion mewn bwyty.

Roedd hyn er bod Ms Awadalla wedi cael gwybod dro ar ôl tro nad oedd y pryd yn cynnwys unrhyw gynhwysion sy’n cynnwys pys.

Gallai’r adwaith, a achosodd i wefusau ac wyneb Noa chwyddo’n gyflym, fod wedi bod yn "angheuol" pe na bai ei rieni wedi rhoi tabledi gwrth-histamin iddo.

“Cymerodd un brathiad o’r byrger a dywedodd, 'Mam, dw i'n cael adwaith' oherwydd ei fod yn gwybod yn syth.

“Dechreuodd ei wefus chwyddo ac yna lledodd ar draws ei wyneb. Yn ffodus fe wnaethon ni roi’r gwrth-histamin iddo yn gyflym iawn.

“Pe na baem wedi gwneud hynny, gallai fod wedi bygwth bywyd - mae ei holl alergeddau yn bygwth bywyd.”

Image
Noa
Mae gan Noa alergedd i wyth o wahanol fwydydd - gan gynnwys pys, corbys (pulses), gwygbys (chick peas), ffa cannellini, cnau daear, cnau pistasio, a physgod fel tiwna a morlas.

Lansio deiseb

Ers hynny, mae'r teulu Awadalla wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth y DU i'w wneud yn ofynnol i fwytai a sefydliadau bwyd eraill ddarparu rhestr gyflawn o'r cynhwysion sy'n cael eu defnyddio yn eu prydau bwyd.

Byddai'r gofyniad yma yn estyniad o Gyfraith Natasha, meddai'r teulu.

Cafodd Gwelliant Gwybodaeth am Fwyd y DU - a ddaeth i rym ym mis Hydref 2021 ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau sy’n gwerthu bwydydd wedi’u pecynnu restru eu holl gynhwysion - ei alw’n Gyfraith Natasha ar ôl Natasha Ednan-Laperouse – a fu farw ar ôl bwyta brechdan gan Pret A Manger.

Ac mae’r Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2014, yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd ddatgelu gwybodaeth am 14 o gynhwysion sydd yn achosi alergeddau, yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae'r rhestr yn cynnwys seleri; grawnfwydydd sy'n cynnwys glwten; cramenogion fel cranc, cimychiaid a chorgimychiaid; wyau; pysgod; coed bysedd y blaidd; llaeth; molysgiaid; mwstard; cnau; hadau sesame; soia; a sylffwr deuocsid, sy'n gyffredin mewn ffrwythau sych a diodydd fel gwin a chwrw.

Er bod hyn wedi helpu pobl ag alergeddau, mae bwyta allan yn parhau i fod yn heriol i'r rhai fel Noa sydd ag alergedd i gynhwysion nad ydynt ar y rhestr.

Mae rhai busnesau eisoes yn darparu rhestr o'u holl gynhwysion.

Pan ymwelodd y teulu â Walt Disney World yn Florida, cawsant iPad gyda rhestr o'r cynhwysion oedd yn cael eu defnyddio ym mhob pryd o fwyd.

“I ni, mewn byd delfrydol, dyna yr hoffem ei weld,” meddai Ms Awadalla.

“Ac wrth wneud hynny, byddai'r baich arnom ni yn hytrach na bod gweinydd neu rywun o’r bwyty yn gorfod gwirio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.