Newyddion S4C

Rhagor o streiciau i effeithio ar deithwyr trên yng Nghymru

07/05/2024
Streic trenau

Mae teithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn wynebu rhagor o oedi wrth i aelodau undeb gweithwyr trenau Aslef streicio unwaith eto.

O ddydd Mawrth i ddydd Iau, bydd gweithwyr 16 o gwmnïoedd trenau'r DU yn streicio ar ddiwrnodau gwahanol.

Mae disgwyl i'r streiciau effeithio ar wasanaethau yng Nghymru ddydd Mercher wrth i'r anghydfod darfu ar drenau Avanti West Coast a Great Western Railway.

Yn ogystal, bydd pob aelod o'r undeb yn gwrthod gweithio dros eu horiau o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn.

Mae gweithredwyr trenau wedi annog teithwyr i wirio eu teithiau ar ddiwrnodau streicio.

Bydd y streic ddydd Mawrth yn effeithio ar c2c, Greater Anglia, Great Northern, Thameslink, Southeastern, Southern/Gatwick Express a'r South Western Railway.

Ddydd Mercher, bydd y streic yn effeithio ar Avanti West Coast, Great Western Railway, Chiltern Railways, CrossCountry, East Midlands Railway,  a West Midlands Trains.

Dydd Iau, bydd gweithwyr trenau yn streicio ar LNER, Northern a’r TransPennine Express.

Dywedodd llefarydd ar ran y Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd: “Mae’r diwydiant rheilffyrdd yn gweithio’n galed i gadw trenau i redeg.

“Ond mae’n debygol y bydd y streic yn effeithio ar wasanaethau'r noson cyn a'r bore ar ôl pob streic rhwng 7 Mai a 9 Mai oherwydd na fydd llawer o drenau yn y depos cywir i ddechrau gwasanaethau'r diwrnod canlynol.

“Ni allwn ond ymddiheuro i’n cwsmeriaid am y streic gwbl ddiangen hon a gafodd ei galw gan arweinyddiaeth Aslef a fydd yn anffodus yn tarfu ar deithiau unwaith eto."

Pam fod y streiciau yn parhau?

Fe wrthododd Aslef gynnig dwy flynedd o 4% yn 2022 a 4% arall eleni, gan ddweud ei fod ymhell islaw cyfradd chwyddiant.

Yn ôl Aslef, nid yw gyrwyr trenau wedi cael codiad cyflog ers pum mlynedd.

Ym mis Rhagfyr, pleidleisiodd aelodau o'r undeb dros barhau i streicio am y chwe mis nesaf.

Mae'r Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd wedi gwahodd Aslef i drafod gyda nhw er mwyn ceisio datrys y sefyllfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.