Newyddion S4C

Lluniau: Cynnal rali ym Mlaenau Ffestiniog i alw am ddeddf eiddo

04/05/2024

Lluniau: Cynnal rali ym Mlaenau Ffestiniog i alw am ddeddf eiddo

Mae rali yn cael ei chynnal yn nhref Blaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn, i alw am ddedf eiddo newydd yng Nghymru.

Nod y ddeddf fyddai ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng tai, meddai'r trefnwyr.

Mae Beth Winter AS o'r Blaid Lafur, Mabon ap Gwynfor AoS o Blaid Cymru a’r cynghorydd Craig ab Iago ymysg y siaradwyr yn y rali 'Nid yw Cymru ar Werth' sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno 'Deddf Eiddo - Dim Llai'. 

"Dy ni wedi mynd trwy'r holl gyfarfodydd polisi," meddai Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. "Yr hyn sydd angen ei ddangos yw ewyllys gwleidyddol.

"Os daw cannoedd neu fwy allan ar y strydoedd, allen ni roi hwn ar yr agenda gwleidyddol yn iawn.”

Image
Rali Deddf Eiddo
Image
Rali Deddf Eiddo
Image
Rali Deddf Eiddo
Image
Rali Deddf Eiddo

'Anghyfiawnder'

Daw'r rali wedi i Gyngor Tref Blaenau Ffestiniog basio cynnig yn ‘datgan cefnogaeth i alwad Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo’.

Dywedodd Osian Jones, aelod o weithgor Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith: "Rydyn ni mor falch o gynnal y rali mewn cymuned lle mae'r Cyngor Tre lleol wedi mynegi cefnogaeth 100% i'r nod o gyflwyno Deddf Eiddo i roi rheolaeth i'n cymunedau dros eu tir a'u tai. 

"Ni wnaiff ddim llai na Deddf Eiddo gyflawn y tro gan na all ein cymunedau Cymraeg ddisgwyl am flynyddoedd eto cyn bod y Llywodraeth yn unioni anghyfiawnder presennol y farchnad dai."

Llun gan Cymdeithas yr Iaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.