
Brychan Llŷr yn dychwelyd i'r llwyfan - ac yn cofio am ei dad gyda phrosiect animeiddio
Brychan Llŷr yn dychwelyd i'r llwyfan - ac yn cofio am ei dad gyda phrosiect animeiddio
Wrth i’r band roc poblogaidd JESS dychwelyd i’r llwyfan yng ngŵyl Fel ‘Na Mai yng Nghrymych ddydd Sadwrn, fe fydd y perfformiad yn nodi cyfnod newydd i’r prif leisydd Brychan Llŷr.
Mae’r cerddor eisoes wedi siarad yn gyhoeddus am brofi cyfnodau o salwch gydag alcoholiaeth yn ystod ei fywyd, ond wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd ei fod bellach yn awyddus i ganolbwyntio ar y dyfodol.
“Mewn ffordd allwn ni ‘weud mai dyma nawr cyfnod ola’ mwy ‘na thebyg yn hanes JESS bydd e.
“Ond bydd e’n sicr cyfnod mwy sobor i fi,” meddai.
Ac mae’n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i berfformio yng Nghrymych – pentref sydd wedi bod yn ganolog i hanes JESS wedi i’r band ffurfio ar ôl iddo ef a’i gyfaill Emyr Penlan gael gwersi roc yno.
“Mae cael ‘ware yng Nghrymych yn dipyn o anrhydedd achos mae wedi bod yn allweddol yn hanes stori grŵp JESS.
“Sai’n credu bydda’r stori wedi gweitho yn y ffordd mae wedi heblaw am y cysylltiad sydd ‘da ni gyda Crymych.”

'Lico os byse' Dad ambyti'r lle'
Ag yntau â phrofiad yn y byd celf, yn ogystal â chyfarwyddo, mae Brychan Llŷr nawr yn gweithio ar brosiect arall sydd yn agos iawn i’w galon.
Yn fab i’r Prifardd a’r cyn-Archdderwydd Dic Jones, mae am gadw gwaith ei dad yn fyw yn y cof drwy greu animeiddiad ‘stop motion’ o'i farddoniaeth – gan greu’r gwaith celf unigryw yma ei hun.
“Rwy’n credu bod e’n syniad da,” esboniodd.
“Dwi’n fab iddo, o’n i’n ‘nabod e, dyfais i lan gydag e a dwi’n ‘nabod yr holl lefydd mae fe’n sôn ambyti yn ei farddoniaeth.
“A dwi yn credu bydda fe’n ddehongliad eitha’ ddiddorol bod ei fab e yn tynnu lluniau ac yn ‘neud cyfres o bethau wedi ‘stop-animeiddio’ ar ei benillion e.”
Yn ffermwr yn Yr Hendre yn Aber-porth, fe ddaeth Dic Jones yn Brifardd wedi iddo ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1966 gyda’i awdl ‘Y Cynhaeaf.’
Daeth yn Archdderwydd yn 2007, ond bu farw yn ddiweddarach yn 2009.
Ac ‘Y Cynhaeaf’ a wnaeth ysbrydoli Brychan i gychwyn ar ei brosiect diweddaraf, wedi iddo sylweddoli cynifer o bobl oedd yn cofio am y gerdd adeg protestiadau’r ffermwyr eleni.
Dywedodd y byddai wedi gwerthfawrogi cymorth ei dad wrth ddadansoddi ei farddoniaeth: “Tra oedd dad byw dwi’n cofio teimlo diawch dylen i ddarllen rhyw faint o waith y boi tra bod e’n byti’r lle ond mi ‘nes i ddim.
“Mae mynd ati i ddarllen ei waith e nawr, byddwn i’n lico os byse fe ambyti’r lle a gofyn iddo fe, ‘Dad be’ wyt ti’n trio ‘weud fan hyn?’, ond dyna yw gwaith y bardd. Unwaith iddo fe gael ei rhoi ar bapur, mae’n gadael e fynd.”

Edrych at y dyfodol
Mae’r prosiect, yn ogystal â dychwelyd i berfformio, wedi galluogi i’r artist a’r cerddor edrych at y dyfodol wedi iddo brofi cyfnod heriol gydag alcoholiaeth.
“Es i trw’ cyfnod o yfed ac erbyn y diwedd o’n i’n gaeth i alcohol a ffaeli ‘neud lawer o gwbl," meddai.
“’Nathon ni ambell o gyngerdd fan hyn a fan ‘co… ond doedd dim y galon, ddim yr egni ‘dafi ynddo.”
Mae gŵyl Fel ‘Na Mai yn nodi’r cyntaf o sawl berfformiad i JESS yn ystod yr haf, gan gynnwys gŵyl ‘GlastonBarry’ yn Y Barri ym mis Gorffennaf.
Ac mae gan y band cerddoriaeth newydd ar y gweill, meddai’r prif leisydd.
“Ond popeth yn ei dro,” ychwanegodd. “S’dim hast.”