Sefydlu 'Bwrdd Crwn' i sicrhau bod ffermwyr yn 'ganolog' i gynllun amaeth y llywodraeth
Mae'r Ysgrifennydd Amaeth wedi cyhoeddi y bydd Bwrdd Crwn Gweinidogol yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn "ganolog" i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae'r cynllun cymhorthdal newydd wedi arwain at brotestiadau ar hyd a lled Cymru, gyda rhai miloedd yn ymgynnull y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd ddiwedd Chwefror.
TB mewn gwartheg, rheoliadau i atal llygredd mewn afonydd a'r newidiadau i gymhorthdaliadau ar ôl Brexit ydy rhai o brif agweddau'r cynllun.
Mae hynny'n cynnwys yr angen i ffermwyr sicrhau bod coed ar 10% o dir fferm yn y dyfodol cyn gallu hawlio cymhorthdal.
Dywedodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies y byddai'r Bwrdd Crwn yn cynnwys ffermwyr, mudiadau cynrychioliadol fel yr Undebau Ffermio a rhanddeiliaid eraill.
Fe fydd y Bwrdd Crwn yn ystyried tystiolaeth gan gynnwys "y camau sydd angen eu cymryd i ddatblygu cynllun diwygiedig sy'n dderbyniol...a dadansoddiad o'r ymgynghoriad."
Ychwanegodd Mr Irranca-Davies ei fod wedi gwrando ar "bryderon y ffermwyr, yr undebau ffermio a’r rhanddeiliaid eraill" ac ei fod am "symud ymlaen i sicrhau ein bod yn ysgwyddo ein hymrwymiadau."
Fe fydd Mr Irranca-Davies yn annerch Aelodau'r Senedd ar 14 Mai am y datblygiadau diweddaraf i'r cynllun, gan ystyried y pryderon y mae wedi eu clywed.
"Mae cefn gwlad Cymru’n cynhyrchu peth o gynnyrch gorau’r byd, hynny gan ffermwyr sy’n cynnal ac yn gofalu am y tirweddau a chymunedau sy’n ysbrydoli ac yn meithrin pobl yma ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd," meddai.
"Dyna pam mae’r newidiadau i’r cymorth rydyn ni’n ei roi i ddiogelu dyfodol ffermio yng Nghymru yn ennyn teimladau mor gryf."
Dywedodd Mr Irranca-Davies ei fod yn disgwyl cynnal cyfarfod cyntaf y Bwrdd Crwn ym mis Mai.
'Croesawu'
Wrth ymateb i'r datganiad ddydd Gwener, dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones: "Dwi'n croesawu'r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda dwy fenter a oedd yn cyfateb yn agos at ein cais gwreiddiol i'r llywodraeth, ynghyd ag ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i barhau i wrando a gweithio gyda ffermwyr a rhanddeiliaid i gyflawni yr uchelgeisiau rydym ni'n eu rhannu.
"Mae'n rhaid i ni gael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gywir, ni all teuluoedd ffermio na'r llywodraeth fforddio cael cynllun sy'n methu â chyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer yr economi wledig, bwyd, natur a hinsawdd.
"Dwi'n falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu sefydlu grŵp a fydd, ymhlith pethau eraill, yn ystyried cynigion amgen i gyflawni atafaelu carbon ychwanegol o fewn y cynllun newydd."