'Llawer o emosiwn': Tensiynau'n cynyddu ar draws prifysgolion America
'Llawer o emosiwn': Tensiynau'n cynyddu ar draws prifysgolion America
Mae tensiynau’n cynyddu ar draws prifysgolion Yr Unol Daleithiau wrth i brotestiadau myfyrwyr o blaid Palestina barhau.
Mae protestwyr wedi sefydlu gwersylloedd ar fwy nag 80 o gampysau ar draws Yr Unol Daleithiau.
Maen nhw'n galw ar sefydliadau academaidd i dorri eu cysylltiadau ariannol ag Israel.
Ond mewn ymateb i weithredoedd y protestwyr mae'r heddlu wedi cynnal cyrchoedd mewn sawl campws.
Wrth siarad o'r Tŷ Gwyn ddydd Iau, dywedodd yr Arlywydd Joe Biden: “Mae anghytuno yn hanfodol i ddemocratiaeth, ond ni ddylai anghydfod byth arwain at anhrefn.”
Daw ei sylwadau ar ôl i fwy na 100 o brotestwyr gael eu harestio ym Mhrifysgol California, Los Angeles, fore Iau.
Wrth ohebu o Brifysgol George Washington, dywedodd Maxine Hughes bod myfyrwyr yn pwyntio bys at Mr Biden.
“Maen nhw’n gweld Joe Biden fel y dyn sy’n gyfrifol am be sydd yn digwydd yn Gaza,” meddai.
“Maen nhw’n erbyn y pres o’r Unol Daleithiau sy’n mynd at Israel i ymosod ar Gaza.”
Dywedodd bod y myfyrwyr yn Washington “ofn” yr heddlu.
“Maen nhw wedi dweud bod y tensiwn yn codi, mae nhw’n ofn sut mae’r heddlu yn mynd i ddelio efo nhw," meddai.
“Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw am geisio symud i mewn i’r camp yma heddiw i glirio pobl allan."
Ychwanegodd: “Mae’r teimlad fan hyn yn dechrau troi i fod yn tense iawn, yn flin iawn, llawer iawn o emosiwn yma.”