Dod o hyd i fodrwy goll ar ôl 54 mlynedd
Dod o hyd i fodrwy goll ar ôl 54 mlynedd
"So, rownd fan hyn oedd e 'di clywed y detector yn mynd off.
"Oedd e lawr rhyw eight inches, oedd e'n gweud.
"Oedd e'n gallu gweld e yn disgleirio yn y ddaear."
Mae Marilyn a Pete 'di bod yn briod am 57 o flynyddoedd.
Maen nhw 'di dathlu nifer o ben-blwyddi priodas.
Ond am 54 o'r blynyddoedd hynny, mae Marilyn 'di bod heb ei modrwy ddyweddïo.
"Mas i siopa, dod nôl, penderfynu mynd i roi gwair i'r da cyn dod mewn i'r tŷ am y nos.
"Dod nôl i'r ty wedyn, golchi dwylo, dim modrwy ar fy mys.
"Straight nôl lan i'r sied, ond ffaelu'n deg a ffeindio fe.
"Dim gobaith o gwbl ac o'n i'n ypset ofnadw ambiti hyn."
Pan ddaeth dyn lleol i ddefnyddio synhwyrydd metal ar dir Marilyn a Pete er mwyn edrych am dlysau o dan y ddaear roedd Marilyn yn meddwl ei fod yn werth trial unwaith eto i ddod o hyd i'r fodrwy.
"O'n i'n gofyn iddo fe dwy neu dair gwaith bod fi'n gweud fel jôc, dim ots am y rubbish hyn i gyd y'ch chi'n ffeindio gwastraff ar hyd y lle 'ma!
"Cerwch i ffeindio fy engagement ring i fi plis, a bant a fe.
"Ddim meddwl dim amdano fe o gwbl, meddwl nag yw'n mynd i ffeindio fe.
"Biti wythnos wedyn, mae fe'n dod nôl a medda fe, 'fi'n credu bod fi 'di ffeindio'r fodrwy'.
"O'n i ffaelu gweud dim byd.
"'Na'i gyd o'n i'n neud oedd edrych arno fe yn llawn mwc.
"Oedd e'n ffitio ar y bys, bach yn dynn, ond ddim yn cwympo off.
"O'n i'n teimlo fel llefen achos o'n i mor falch i weld y fodrwy wedi dod nôl, ie.
"Wedi dod gartre!"
"Brought back a lot of memories. I remember spending the money now!"
Ar ôl 54 o flynyddoedd hebddi, mae Marilyn yn addo na fydd hi byth yn tynnu y fodrwy arbennig eto.