Newyddion S4C

Rhybudd melyn am fellt a tharanau i rannau o Gymru

02/05/2024
Rhybudd tywydd / mellt a tharanau

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer mellt a tharanau i rannau o Gymru ddydd Iau.

Bydd y rhybudd mewn grym yn rhai o siroedd ar draws Cymru o 12:00 hyd at 23:59.

Mae disgwyl “glaw ar y ffordd ac o bosib llifogydd sydyn,” yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Gallai hynny arwain at amodau gyrru anodd a chau rhai ffyrdd.

Mae yna bosibilrwydd y gallai toriadau pŵer ddigwydd a gwasanaethau eraill i rai cartrefi a busnesau gael eu colli.

Mae'n bosib y gallai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd, gyda difrod i rai adeiladau oherwydd y dŵr, mellt yn taro, cenllysg neu wyntoedd cryfion.

“Os ydych chi’n eich cael eich hun y tu allan ac yn clywed taranau, ceisiwch ddod o hyd i loches gaeedig ddiogel (fel car),” meddai’r Swyddfa Dywydd.

“Peidiwch â chysgodi o dan neu gerllaw coed, nac unrhyw strwythurau eraill a allai gael eu taro gan fellten. Os ydych ar dir uchel symudwch i dir is.

“Byddwch yn barod i rybuddion tywydd newid yn gyflym: pan gyhoeddir rhybudd tywydd, mae’r Swyddfa Dywydd yn argymell eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon y tywydd yn eich ardal.”

Siroedd

Mae’r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Conwy

  • Gwynedd

  • Powys

  • Sir Ddinbych

  • Sir Fynwy

  • Sir Y Fflint

  • Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.