Newyddion S4C

Arbenigwyr yn galw am gyfrineiriau cryf i atal twyll ar-lein

02/05/2024
cyfrifiadur twyll arlein

Mae arbenigwyr ar ddiogelwch ar-lein wedi galw ar bobl i greu cyfrineiriau "cryfach" er mwyn atal y perygl o dwyll.

A hithau'n Ddiwrnod Cyfrinair y Byd ddydd Iau, mae arolwg wedi dangos fod 20% o bobl yn defnyddio'r un cyfrinair ar wahanol wefannau, a hynny er gwaetha'r ffaith bod nifer cynyddol o bobl yn poeni am dwyll.

Yn ogystal, mae nifer o bobl yn defnyddio dyddiadau sy'n bwysig iddyn nhw, neu enwau anifeiliaid anwes - arferiad sy'n cynyddu'r perygl o dwyll, yn ôl arbenigwyr o'r Sefydliad Technoleg a Pheirianwaith.

Mae arolwg o 2,000 o bobl yn y DU wedi awgrymu fod 84% o ddefnyddwyr yn credu fod y perygl o dwyll ar-lein yn fwy nag erioed. 

Dywedodd Junade Ali o'r Sefydliad, arbenigwr mewn diogelwch ar-lein:"Yn ein byd ar-lein, sy'n newid mor sydyn, mae cael cyfrineiriau cryf yn bwysicach nag erioed, wrth i hacwyr dargedu cyfrifon pobl sydd â chyfrineiriau sy'n wan neu'n hawdd eu darganfod.

Mae'r Sefydliad yn annog defnyddwyr i greu cyfrineiriau hir a chymhleth sy'n unigryw i bob gwefan. Yn ogystal, mae nhw'n awgrymu y dylai pobl ddefnyddio "rheolwr cyfrineiriau" i'w storio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.