Llywodraeth yr Alban yn goroesi pleidlais o ddiffyg hyder
Mae Llywodraeth yr Alban wedi goroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn Senedd Holyrood.
Roedd arweinydd Plaid Lafur yr Alban, Anas Sarwar wedi cynnig y bleidlais ar ôl methiant cytundeb yr SNP a Gwyrddion yr Alban i rannu grym.
Cafodd y bleidlais o ddiffyg hyder ei threchu o 58 pleidlais o blaid i 70 yn erbyn heb unrhyw un yn ymatal.
Gallai yr Alban fod wedi wynebu etholiad ar gyfer y senedd pe bai'r bleidlais o ddiffyg hyder wedi llwyddo i ddymchwel y llywodraeth leiafrifol SNP.
Ond penderfynodd y Gwyrddion gefnogi llywodraeth leiafrifol yr SNP yn y bleidlais.
Dywedodd cyd-arweinydd Gwyrddion yr Alban, Patrick Harvie, nad oedd “unrhyw ddrwgdeimlad” tuag at y Prif Weiniog Humza Yousaf yn dilyn diwedd Cytundeb Tŷ Bute rhwng y ddwy blaid.
Dywedodd Mr Harvie fod ganddo barch dyledus i arweinyddiaeth Mr Yousaf dros y sefyllfa yn Gaza.
Dywedodd: “Am hyn, a llawer iawn mwy, mae parch a diolch i Humza Yousaf.”
'Dim hyder'
Daw’r bleidlais wedi i Humza Yousef ymddiswyddo fel arweinydd plaid yr SNP ddydd Llun.
Fe fydd yn parhau fel Prif Weinidog y wlad nes bod olynydd yn ei le, meddai.
Cyn y bleidalais roedd Anas Sarwar wedi dweud nad oedd gan y Blaid Lafur “hyder yng ngallu'r SNP i gyflawni."
“Dyna pam rwy’n dod â’r cynnig hwn i’r senedd heddiw.”
“Mae’r SNP fel plaid wleidyddol mor anhrefnus a rhanedig fel nad yw’n gallu darparu llywodraeth gymwys ac mae’n gadael Albanwyr i lawr bob dydd.”