Colli Alun Wyn Jones yn ‘ergyd enfawr’ i’r Llewod 

Colli Alun Wyn Jones yn ‘ergyd enfawr’ i’r Llewod 

Newyddion S4C

Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Cymru Emyr Lewis, wedi disgrifio colli Alun Wyn Jones o dîm y Llewod fel “ergyd enfawr”.

Roedd Lewis yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C yn dilyn cyhoeddiad y prif hyfforddwr Warren Gatland y bydd y Llewod heb eu capten am weddill y daith.  

Cafodd Jones ei dynnu ffwrdd o’r cae ar ôl saith munud, ar ôl dioddef anaf i’w ysgwydd yn ystod buddugoliaeth y Llewod yn erbyn Japan yn Stadiwm Murryfield, Caeredin brynhawn dydd Sadwrn.

Mae Conor Murray wedi ei ddewis fel y capten newydd; penderfyniad nad yw Lewis yn sicr sy’n un cywir.

“Fe [Alun Wyn Jones] oedd y capten naturiol, nawr dwi ddim yn siŵr iawn os bod nhw 'di neud y penderfyniad iawn yn pigo Conor Murray achos, yn bersonol dwi ddim yn credu taw fe yw'r mewnwr gorau sydd ar y daith.”

Nid Wyn Jones oedd yr unig golled i’r Llewod, gyda Justin Tipuric o Gymru hefyd yn colli gweddill yr ymgyrch oherwydd anaf.

Mae Josh Navidi ac Adam Beard, y ddau o Gymru, wedi eu cyhoeddi yn eu lle.

Beth nesaf i Alun Wyn Jones felly?

Bydd Jones yn 36 ym mis Medi, ac yn ôl Lewis mae ei oedran yn debygol o effeithio ar ei allu i wella.

“Mae’n ergyd iddo fe, gan fod ei oedran e yn mynd ymlaen mae ei gorff e yn mynd yn fwy bregus na beth ma’ fe’n arfer neud. 

“Mae fe'n cymryd mwy o amser i chi wella o'r anafiadau yma. Fi’n siŵr fod e’n ergyd seicolegol enfawr iddo fe hefyd.”

Flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth Wyn Jones ennill ei 149fed cap dros Gymru, gan sicrhau ei le fel y chwaraewr gyda’r mwyaf o gapiau rhyngwladol erioed.

Er gwaethaf ei oedran, mae Lewis yn ffyddiog y gallwn weld capten Cymru yn chwarae dros ei wlad unwaith eto.

“I fi'n bersonol yn gobeithio bod e'n mynd i ddod nôl.

“Mae fe'n un o'r chwaraewyr 'na sydd yn gadarn, mae fe'n gryf ag yn feddyliol ma' fe'n gryf hefyd.

“Felly synne'n i ddim gweld e nôl yn y crys coch tymor nesa'.”

Llun: Asiantaeth Huw Evans