Cyhuddo dyn ifanc o lofruddiaeth yn ardal Caerdydd
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn ardal Trelái o Gaerdydd ar ddechrau’r mis.
Mae Corey Gauci, 18 oed o Gaerdydd, wedi ei gyhuddo o ladd Colin Richards ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.
Fe gafodd dyn arall, 26 oed o Gaerdydd, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r tad i saith o blant ei ryddhau ar fechnïaeth, ond fe gafodd orchymyn i ddychwelyd i’r carchar wedi iddo dorri amodau ei drwydded ar ôl iddo gael ei ryddhau.
Mae teulu Colin Richards wedi cael eu diweddaru ac maen nhw’n parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Bu farw Mr Richards o Drelluest (Grangetown) wedi i’r gwasanaethau brys ymateb i alwad yn dilyn digwyddiad yn ardal Heol-Y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau ar 7 Ebrill.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y gŵr wedi marw o ganlyniad i anafiadau trywanu angheuol.