Newyddion S4C

Y canwr Mike Peters yn cyhoeddi fod ei ganser wedi dychwelyd

29/04/2024
Mike Peters

Mae prif ganwr The Alarm, Mike Peters, wedi dweud fod ei ganser wedi dychwelyd. 

Mewn datganiad ar wefan y band ddydd Llun, dywedodd: "Ar ddydd Sul, 21 Ebrill, fe wnes i ddeffro gyda gland wedi chwyddo ar ochr chwith fy ngwddf. 

"Mae'r canlyniadau cynnar yn awgrymu fod fy Lewcemia Lymffocytig Cronig (CLL) wedi trawsnewid i fod yn Lymffoma Gradd Uchel."

Mae Mike Peters wedi byw gyda phroblemau iechyd am bron i 30 mlynedd, wedi iddo dderbyn ei ddiagnosis cyntaf o ganser yn 1995. 

Yn 2006, sefydlodd yr elusen Love Strength Hope sydd yn hybu pobl i roi mêr esgyrn ar gyfer triniaeth canser.

Ychwanegodd y canwr yn y datganiad ei fod yn disgwyl profion ym Manceinion cyn cael cadarnhad am y driniaeth y bydd yn ei derbyn yn Uned Ganser Gogledd Cymru.

"Yn anffodus, yn sgil y newyddion anffodus, ni fyddaf bellach yn gallu teithio i UDA ar gyfer y Daith Live Today Love Tomorrow, a oedd i fod i ddechrau yr wythnos hon ar 1 Mai," meddai.

"Dwi dal mewn sioc gan oblygiadau'r diagnosis newydd yma nad oeddwn i wedi ei ragweld, ac yn gwneud fy ngorau i brosesu beth sydd wedi digwydd. Dwi'n ddiolchgar am y cariad a'r dealltwriaeth, yn sgil gohirio'r daith, ac yn gobeithio a gweddïo mai dim ond saib ydi hwn yn stori fy mywyd, ac y byddaf yn dychwelyd i fywyd normal yn fuan.

"Mae canser wedi bod yn fy nilyn ers 29 mlynedd bellach, ac yn yr amser hwnnw, 'dw i wedi llwyddo i ddianc rhagddo ac aros yn fyw. Mae fy ffocws yn parhau yr un fath, a dwi'n benderfynol i weithio hyd yn oed yn galetach i aros un cam ar y blaen ac i barhau gyda fy mywyd fel gŵr, tad a cherddor cyn gynted â bo modd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.