Arestio dyn ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ym Merthyr
29/04/2024
Mae dyn 29 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, wedi gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful ddydd Gwener 5 Ebrill.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Abertawe yn y dre, meddai Heddlu De Cymru.
Mae'r dyn yn y ddalfa ac yn cael ei holi yng ngorsaf heddlu Merthyr Tudful.