Newyddion S4C

Pobl sydd ag iselder a phryder i golli budd-daliadau salwch?

29/04/2024
Mel Stride

Fe allai pobl sy’n dioddef o iselder neu or-bryder golli mynediad at fudd-daliadau salwch.

Mae Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, Mel Stride ar fin cyhoeddi cynlluniau i ailwampio’r ffordd y mae budd-daliadau anabledd yn gweithio.

Mewn datganiad i Dŷ’r Cyffredin ddydd Llun, mae disgwyl iddo gyhoeddi'r newidiadau.

Y bwriad meddai'r llywodraeth yw darparu “mwy o gymorth sydd wedi’i deilwra yn unol ag anghenion unigolion”.

Yn y ddogfen Papur Gwyrdd mae cynlluniau i ddiwygio taliadau annibyniaeth bersonol (PIP) sef y prif fudd-dal anabledd, drwy wneud newidiadau i feini prawf cymhwyster ac asesiadau.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys cynigion i “symud i ffwrdd o system budd-daliadau arian parod sefydlog”.

Byddai hynny yn golygu na fyddai pobl â rhai cyflyrau yn derbyn taliadau rheolaidd ond yn hytrach yn cael gwell mynediad at driniaeth.

'Ymgysylltu â byd gwaith'

Mewn cyfweliad gyda The Times, awgrymodd Mr Stride y byddai'r newidiadau yn golygu na fyddai pobl â “chyflyrau iechyd meddwl llai difrifol” yn cael cymorth ariannol yn y dyfodol. 

Dywedodd y gweinidog na ddylai’r system fod yn talu pobol i ddelio ag “anawsterau cyffredin bywyd”.Fe awgrymodd fod nifer o bleidleiswyr yn cytuno ag ef "yn y bôn."

Ychwanegodd mai’r prif reswm am y newidiadau oedd darparu gwell cymorth ac nid torri costau, ond roedd yn cydnabod bod yn rhaid i’r gost “fod yn un o’r ystyriaethau”.

Daw cynigion ddydd Llun yn dilyn araith gan y Prif Weinidog, Rishi Sunak yn gynharach yn y mis. Fe ddywedodd yn ei araith y “dylid disgwyl i bobl â chyflyrau iechyd meddwl llai difrifol ymgysylltu â'r byd gwaith”.

'Ymosodiad di-hid'

Mae James Taylor, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth yr elusen Scope wedi galw ar ddod â'r “ymosodiad di-hid” ar bobl anabl i ben ac i ddatrys y “materion sylfaenol gwirioneddol”.

“Mae’n anodd cael unrhyw ffydd bod yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag unrhyw beth heblaw torri’r bil budd-daliadau,” meddai Mr Taylor.

Dywedodd Dirprwy Gydlynydd Ymgyrch Genedlaethol Llafur, Ellie Reeves, nad oedd gan y llywodraeth gynllun ar gyfer delio ag afiechyd meddwl. 

Does gan y cyhoeddiad ddydd Llun dim “gynigion cadarn i fynd i’r afael â’r mater hwn” meddai. 

Llun: Wochit / Imago Images

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.