Deddfau newydd yn dod i rym i amddiffyn rhag ymosodiadau seibr
Bydd deddfau newydd sy'n amddiffyn defnyddwyr rhag hacio ac ymosodiadau seibr yn dod i rym ddydd Llun.
O hyn allan mae'n ofynnol i bob dyfais glyfar fodloni safonau diogelwch.
Mae bellach yn gyfreithiol ofynnol i wneuthurwyr dyfeisiadau gan gynnwys ffonau, setiau teledu a chlychau drws clyfar amddiffyn dyfeisiau sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd rhag mynediad gan droseddwyr seiber, meddai'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg.
Bydd cyfrineiriau gwan fel “admin” neu “12345” yn cael eu gwahardd, a bydd defnyddwyr yn cael eu hannog i newid unrhyw gyfrineiriau cyffredin.
Mae'n rhaid i wneuthurwyr gyhoeddi manylion cyswllt fel y gellir rhoi gwybod am fygiau a phroblemau, a bod yn dryloyw ynghylch diweddariadau diogelwch.
Bydd y mesurau newydd yn helpu i roi hyder i gwsmeriaid brynu a defnyddio cynnyrch, yn ôl yr adran.
Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Is-iarll Camrose: “Wrth i fywyd bob dydd ddod yn fwyfwy dibynnol ar ddyfeisiau cysylltiedig, mae’r bygythiadau a gynhyrchir gan y rhyngrwyd yn cynyddu ac yn dod yn fwy byth.
“O heddiw ymlaen, bydd gan ddefnyddwyr fwy o dawelwch meddwl bod eu dyfeisiau clyfar yn cael eu hamddiffyn rhag troseddwyr seiber, wrth i ni gyflwyno deddfau cyntaf y byd a fydd yn sicrhau bod eu preifatrwydd personol, eu data a’u harian yn ddiogel.
“Rydym wedi ymrwymo i wneud y DU y lle mwyaf diogel yn y byd i fod ar-lein ac mae’r rheoliadau newydd hyn yn gam sylweddol tuag at fyd digidol mwy diogel.”