Dros draean poblogaeth Cymru'n ordew
Dros draean poblogaeth Cymru'n ordew
Dau dîm yn brwydro ar gae pêl-droed ger Abertawe.
Chris Shaw yw'r arwr yn yr amddiffyn.
Cwta dwy flynedd nôl byddai Chris, sy'n athro Saesneg yn Ysgol Bryn Tawe ddim wedi gallu chwarae.
Roedd e'n pwyso 24 stôn. "Mae'n ystafell ddosbarth i ar lawr ucha'r ysgol.
"O'n i'n cerdded o'r gwaelod i'r top a bydden i ddim yn gallu... "..siarad 'da neb am 10 munud - o'n i mas o anadl."
Ymunodd a'r tîm gafodd ei sefydlu yn benodol ar gyfer dynion sydd dros eu pwysau. Real Lettuce yw enw'r tîm.
"Bellach nawr fi 'di colli bron i 10 stôn os fi'n onest.
"Wedi galluogi fi i redeg hanner marathon Abertawe a Chaerdydd.
"Bydde hynna byth yn bosib heb gefnogaeth Man vs Fat... "..ac wrth gwrs yr hunan-ddisgyblaeth sydd angen."
Ond nid ennill ar y cae yn unig sy'n cyfri. Cyn chwarae'r gemau mae'r chwaraewyr yn cael eu pwyso ac mae safle'r tîm yn y gynghrair yn dibynnu ar faint o bwysau mae'r aelodau wedi colli yn ogystal â chyfanswm eu goliau.
Yn ôl yr hyfforddwr Hywel Pugh mae nifer y dynion yn fwy cyfforddus yn ceisio colli pwysau yn hytrach na mynychu dosbarthiadau traddodiadol.
"Gallen nhw fynd i bwyso mewn dosbarth a mynd drwy'r broses... "..ond does dim clod am hynna.
"Os maen nhw'n cael gêm o bêl-droed a neud ffrindiau newydd... "..mae e sicr yn gynorthwyol i iechyd meddwl y person hefyd."
Yn ystod y 30 mlynedd dwetha mae cyfraddau gordewdra wedi dyblu yng Nghymru.
Fe allai maint yr argyfwng fod yn llawer gwaeth na'r ofn.
26% o oedolion yng Nghymru sy'n ordew yn ôl ffigurau swyddogol sy'n seiliedig ar bobl yn mesur eu hunain.
Yn ol ymchwil newydd fe fyddai'r gyfradd yn 34% petasai'r ystadegau'n cael eu cywiro fel sy'n digwydd yn Lloegr a'r Alban i adlewyrchu fod dynion yn tueddu i or-adrodd eu taldra a menywod yn tueddu i dan-adrodd eu pwysau.
Fyddai hynny'n golygu bod 200,000 o bobl yn rhagor yn ordew.
Mae e'n cynyddu'r effaith ar bobl sy'n datblygu type 2 diabetes cardiovascular disease a rhai cancers hefyd.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd hefyd yn cydnabod maint yr her.
"Mae tri blaenoriaeth 'da fi. "Y cyntaf yw setlo'r streics, yr ail yw dod a rhestrau aros i lawr... "..a'r trydydd yw taclo gordewdra."
Nid problem ymhlith oedolion yn unig yw hyn.
Mae cyfraddau gordewdra ymhlith plant hefyd yn uwch na gweddill y Deyrnas Unedig.
"'Dan ni'n gweld plant a phobl ifanc efo math 2 diabetes. "O'n ni'n draddodiadol yn gweld hynny mewn dynion canol oed... "..oherwydd eu deiet. "Ni'n gweld e mewn plant 10 ac 11 oed. "Meddyliwch am yr effaith wedyn ar y Gwasanaeth Iechyd... "..trwy gydol eu hoes."
Ar ôl trawsnewid ei fywyd ei hun mae Chris Shaw fel athro yn cytuno bod angen targedu a chefnogi y genhedlaeth iau ond â phwysau un ymhob tri oedolion Cymru bellach yn beryglus o uchel, does dim gwadu maint yr her.