Laurence Fox yn cael gorchymyn i dalu £180,000 o iawndal am enllib
Mae'r actor a'r ymgyrchydd gwleidyddol Laurence Fox wedi cael gorchymyn i dalu £90,000 yr un mewn iawndal i ddau berson y cyfeiriodd atynt fel “pedoffeiliaid” ar gyfryngau cymdeithasol.
Fe gollodd Mr Fox achos enllib yn yr Uchel Lys gan gyn-ymddiriedolwr Stonewall, Simon Blake a'r artist drag Crystal.
Gwnaeth Mr Fox y sylwadau mewn frae ar X, Twitter gynt, am benderfyniad archfarchnad Sainsbury's i nodi Mis Hanes Pobl Ddu.
Dywedodd Mrs Ustus Collins Rice fod sylwadau Mr Fox yn "enllib dybryd, di-sail ac anamddiffynadwy" yn ei dyfarniad ysgrifenedig.
Roedd Mr Fox, sylfaenydd plaid 'Reclaim', wedi dweud ar y pryd y byddai’n boicotio Sainsbury’s yn ystod yr ymgyrch - ac fe geisiodd Mr Fox hefyd siwio Mr Blake a Crystal [Colin Seymour], yngyd â’r darlledwr Nicola Thorp gan ddweud eu bod wedi trydar yn cyhuddo Mr Fox o hiliaeth,ond ni lwyddodd ei gais.
Fe ychwanegodd Mrs Ustus Collins Rice yn ei dyfarniad ysgrifenedig: “Trwy alw Mr Blake a Mr Seymour yn bedoffeiliaid, fe wnaeth Mr Fox eu darostwng i ddioddefaint cyhoeddus cwbl anhaeddiannol.
“Roedd yn enllib dybryd, di-sail ac anamddiffynadwy, gyda chanlyniadau trallodus a niweidiol iddynt."