Gêm ddwyieithog sy’n cyfuno sombïaid a llên gwerin yn cael sylw rhyngwladol
Mae gêm gyfrifiadur ddwyieithog sy'n hyrwyddo iaith a diwylliant Cymreig wedi cyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang.
Ychydig ddyddiau yn unig ers iddi gael ei lansio, mae’r gêm ‘Sker Ritual’ - gan ddatblygwyr ‘Wales Interactive’ - wedi dringo'r siartiau Steam ar gyfer gemau sydd wedi cael eu lawrlwytho fwyaf i'r PC.
Mae’r gêm wedi cael ei dylanwadu’n fawr gan straeon o Dŷ’r Sger, sydd tu allan i Borthcawl, dafliad carreg hen swyddfeydd y datblygwyr .
Mae Richard Pring, un o sylfaenwyr y cwmni wedi dweud: “Gan ein bod ni’n gwmni Cymreig, ry’n ni wedi bod yn gwneud hyn am ddeuddeg mlynedd nawr.
“Mae e jyst yn gwneud synnwyr i ni adrodd hanesion Cymreig, ac mae cymaint o straeon diddorol yn bodoli. Cymaint o straeon sydd ddim yn cael eu clywed ac ry’n ni am eu cyflwyno i gynulleidfaoedd mwy.”
'Emynau Cymreig'
Mae’r gêm yn cael ei disgrifio fel un “ddwys, gyda dylanwadau arswydus” lle mae’n rhaid i chwaraewyr ddatrys problemau dirgel wrth wynebu ymosodiadau gan y ‘Quiet Ones’.
“Ein bwriad yw creu gemau sy’n taro deuddeg gyda phobl, ac yn y diwydiant gemau fideo does dim llawer o bobl yn gwneud gemau Cymreig," meddai Dr David Banner, un o sylfaenwyr Wales Interactive.
Mae’n bosib chwarae’r gêm gyfan yn Gymraeg, ac mae yna elfennau eraill o ddylanwadau Cymreig, er enghraifft trefiannau arswydus o emynau Cymreig.
“Un peth sydd wedi gweithio’n hynod o dda yw’r emynau. Ry’n ni wedi cynnwys nifer o emynau ac mae’r chwaraewyr yn gofyn ‘beth yw'r rhain?’ sydd yn galluogi llawer o bobl i ddarganfod emynau Cymreig o’r gêm," meddai Mr Pring.
Mae’r datblygwyr yn dweud fod y gêm yn deillio o’r ‘Maid of Sker’ sydd wedi ennill nifer o wobrau wnaeth cael ei chreu gan yr un cwmni.
Fe ddywedodd Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Crefydd ag Athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor ei fod yn “hynod o bwysig i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ble bynnag sy’n bosib".
“Mae’r ffaith eich bod chi’n gallu chwarae gêm trwy gyfrwng y Gymraeg yn ffantastig. Do’n i byth wedi gallu chwarae gêm trwy gyfrwng y Gymraeg cyn hyn,” meddai.
Fe ychwanegodd: “Bydd e bendant yn chwarae rhan hanfodol mewn addysgu pobl am amrywiaeth eang o ieithoedd a diwylliannau y DU. Mae e’n blatfform gwych i wneud hyn ar raddfa ryngwladol.”