Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman: Merch yn ei harddegau wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

24/04/2024

Ysgol Dyffryn Aman: Merch yn ei harddegau wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

Mae merch yn ei harddegau wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i dri pherson gael eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman, meddai'r heddlu.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod tri o bobl - dau athro a disgybl yn ei arddegau - wedi cael eu cludo i'r ysbyty gyda chlwyfau trywanu.

Doedd yr anafiadau ddim yn peryglu eu bywydau, medden nhw.

Mae rhaglen Newyddion S4C yn deall mai Fiona Elias, athrawes yn yr ysgol, a phennaeth Blwyddyn 7, yw un o'r bobl sydd wedi ei hanafu.

Image
Fiona Elias
Fiona Elias, athrawes yn Ysgol Dyffryn Aman

Cafodd disgyblion eu brawychu gan y digwyddiad. Dywedodd  un ohonyn nhw, Osian: "Odd e'n rhywbeth o'n i ofn iawn. Odd fi a gyd o'n ffrindiau jest yn rhedeg y ffordd arall -trio cadw o'r ffordd  o beth odd yn digwydd."

Ond dywedodd Megan, prif ddisgybl Ysgol Dyffryn Aman, bod yr ysgol yn haeddu canmoliaeth am y modd roedden nhw wedi delio a'r sefyllfa.

"Mae pawb yn gwybod beth i'w wneud yn sefyllfa fel'na," meddai. "Odd yr athrawon yn helpu'r plant i gyd."

Dywedodd bod y disgyblion wedi cael eu cadw yn eu dosbarthiadau o 11.30 y.b ymlaen; dim ond yn cael mynd allan i gael bwyd gyda'r heddlu.   

Bydd yr ysgol ar gau yfory, meddai arweinydd y cyngor Darren Price.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans: “Ychydig ar ôl 11.20 y bore ma fe gawson ni alwad yn ein hysbysu am ddigwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin.

“Daeth y gwasanaethau brys ar unwaith a chafodd yr ysgol ei chloi i lawr er diogelwch pawb ar y safle.

“Mae tri o bobl – dau athro a disgybl yn eu harddegau – wedi’u cludo i’r ysbyty gyda chlwyfau trywanu. Mae aelodau teulu pawb a gafodd eu hanafu wedi cael gwybod.

“Mae merch yn ei harddegau wedi’i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae’n parhau yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.

“Hoffwn roi sicrwydd i rieni a’r cyhoedd bod y digwyddiad wedi dod i ben, a bod disgyblion bellach wedi gadael yr ysgol."

'Peidio dyfalu'

Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Ross Evans eu bod nhw'n gweithio gyda’r ysgol ac asiantaethau eraill i sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael i bawb sy’n gysylltiedig.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad ofnadwy ac mae ein meddyliau gyda’r dioddefwyr, eu teulu a phawb sydd wedi’u heffeithio gan yr hyn sydd wedi digwydd," meddai.

“Rwy’n ymwybodol bod lluniau o’r digwyddiad yn cylchredeg ar hyn o bryd ar gyfryngau cymdeithasol a byddwn yn gofyn iddyn nhw gael ei ddileu er mwyn osgoi dirmyg llys a phoen meddwl i’r rhai yr effeithiwyd arnynt.

“Hoffwn hefyd ofyn i bobl beidio â dyfalu tra bod ymchwiliad heddlu’n parhau.

“Rydym yn gweithio gyda’r ysgol, Cyngor Sir Caerfyrddin, ac asiantaethau eraill i sicrhau bod cymorth priodol ar gael i bawb sy’n gysylltiedig.

“Fe fydd pobol leol yn gweld mwy o heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i’r ymchwiliad barhau.”

'Difrifol'

Dywedodd Jonathan Edwards, AS Annibynnol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, na allai gofio dim byd tebyg i'r digwyddiad yng Nghymru o'r blaen.

Dywedodd wrth Channel 5 News: “Mae un o’r disgyblion wedi cael ei drywanu, ac yna mae athrawon wedi ceisio ymyrryd ac yn anffodus hefyd mae rhai o’r athrawon wedi cael eu trywanu.”

Ychwanegodd Mr Edwards: “Rwy’n credu bod dau athro wedi’u hanfon i’r ysbyty, un wedi’i rhyddhau ag anafiadau i’w fraich a’i law, ac rwy'n credu fod yr athro arall yn anffodus wedi’i gludo … i Gaerdydd, i Ysbyty’r Heath, a’r sefyllfa honno yn llawer mwy difrifol.

“Mae’n sioc enfawr, onid yw hi mewn gwirionedd? Fyddwn i byth yn meddwl y gallai unrhyw beth fel hyn ddigwydd yn Sir Gaerfyrddin, yn Nyffryn Aman o ble rydw i'n dod, ni allaf gofio unrhyw beth fel hyn erioed wedi digwydd yng Nghymru o'r blaen.

“Mae'n croesi llinell mewn gwirionedd, yndyw hi? Bod arf wedi’i gludo i’r ysgol a’i ddefnyddio.”

'Tawelu meddwl'

Dywedodd datganiad ar wefan Ysgol Dyffryn Aman: “Rydych chi eisoes yn ymwybodol o’r digwyddiad sydd wedi digwydd yn Ysgol Dyffryn Aman heddiw.

“Mae aelodau teulu’r holl bobl sydd wedi’u hanafu wedi cael gwybod.

“Hoffem dawelu meddwl rhieni a’r cyhoedd drwy ddweud bod y digwyddiad bellach wedi’i atal."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.