Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol gwersi Cymraeg anffurfiol

23/04/2024

Pryder am ddyfodol gwersi Cymraeg anffurfiol

Agor y drws i'r Gymraeg yn y Porth yn Rhondda.

Gwersi anffurfiol gan wirfoddolwyr yw'r rhain yn yr Hen Lyfrgell.

Mae 'na bryder bydd llai o gyfleoedd i ddysgwyr fel y rhain heb fwy o arian i sefydliadau sy'n hybu'r iaith.

"Mae'n newyddion trist.

"Mae cymaint o ddiddordeb yn yr ardal yma a phobl yn edrych am gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Mae hyn a hyn o Gymraeg gyda lot o bobl yn yr ardal yma.

"Mae dau berson yr wythnos yma wedi holi fi am wersi Cymraeg.

"Mae'n amlwg bod diddordeb allan yna ond bod angen mwy o gyfleoedd i bobl i ddysgu."

Mae'r tiwtoriaid yn poeni hefyd.

"Dw i eisiau gweld pawb yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg am ddim.

"Dw i eisiau gweld y Llywodraeth yn rhoi mwy o arian mewn."

Mae rhai o'r dysgwyr ynghyd â phobl sy'n dod yma i sgwrsio yn deall bod arian yn dynn.

"Mae llawer o bobl ddim yn mynd mas o'r Rhondda i ddysgu Cymraeg uwch yn y Brifysgol yn Trefforest a pethau fel 'na."

"Dydy'r economi ddim yn rhy dda felly alla i ddim gweld mwy o arian yn cael ei wario ar y Gymraeg beth bynnag."

Yn ôl ymgynghoriad gan y Senedd roedd 'na fwriad i roi £3.5 miliwn yn ychwanegol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Doedd dim ffigwr pendant medde'r Llywodraeth tra'n cydnabod bydd y Coleg Cymraeg yn cael yn agos at filiwn o bunnoedd yn llai na'r addewid.

"Mae'n partneriaeth ni gyda'r Ganolfan wedi'n galluogi ni i benodi prentisiaid o fewn yr Urdd sydd ddim yn siaradwyr Cymraeg.

"Maen nhw'n dod o gefndiroedd Somali yn de dinas Caerdydd ac wedi galluogi'r Urdd i agor lan i gynulleidfaoedd newydd o fewn y ddinas.

"Mae'r swyddogion wedi cael cyfle i ddysgu Cymraeg yn ystod y prentisiaeth."

Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi beirniadu'r Llywodraeth gan gwestiynu eu hymroddiad i'r iaith.

"Yn anffodus er bod ni di cael geirie teg y nod o filiwn o siaradwyr mae'r neges o dorri i sefydliadau Cymraeg y neges yw nad yw'r Gymraeg mor bwysig â hynny a bod y Llywodraeth yn fodlon anghofio eu blaenoriaethau a dyna ni.

"Ni nôl wedyn i sefyllfa lle mae'n rhaid inni ddyfalbarhau a brwydro ac ymgyrchu dros addysg Gymraeg."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod 'na bwysau sylweddol ar ein holl gyllidebau a'u bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen fel y Gwasanaeth Iechyd ac ysgolion.

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a'r Coleg Cymraeg wedi cadarnhau na fydd penderfyniad y llywodraeth yn arwain at newidiadau o ran nifer y swyddi.

Ond mae nifer yn poeni na fydd hyn chwaith yn helpu'r iaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.