Newyddion S4C

Teulu yn poeni na fydd eu cwestiynau yn cael eu hateb ar ôl ymddiswyddiad Huw Edwards

23/04/2024
Huw Edwards

Mae mam person ifanc oedd yng nghanol straeon yn ymwneud â'r cyflwynydd Huw Edwards y llynedd wedi dweud ei bod hi'n pryderu na fydd yn cael atebion wedi iddo ymddiswyddo.

Fe gyhoeddodd y BBC ddydd Llun fod Mr Edwards wedi gadael y gorfforaeth “ar sail cyngor meddygol”.

Daw ei ymddiswyddiad ar ôl i bapur newydd The Sun adrodd ym mis Gorffennaf 2023 fod cyflwynydd amlwg wedi talu person ifanc am luniau o natur rywiol.

Cafodd enw Mr Edwards ei ddatgelu gan ei wraig Vicky Flind fel y cyflwynydd oedd y straeon yn cyfeirio ato, a ddywedodd ei fod yn derbyn triniaeth mewn ysbyty.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y gyfraith wedi ei thorri. 

Dywedodd y fam wrth bapur newydd The Sun fod angen iddi gael gwybod gan y BBC a oedd Mr Edwards wedi cydweithredu â'u hymchwiliad ychwanegol i'w ymddygiad.

“Rydyn ni’n poeni na chawn ni atebion nawr bod Huw wedi ymddiswyddo ond rydyn ni wir eu hangen,” meddai.

“Os ydyn nhw wedi canfod ei wedi gwneud rhywbeth o’i le, ni ellir cymryd unrhyw gamau. 

“Mae fy nghalon wedi torri.”

Dywedodd datganiad gan y BBC a gyhoeddodd ymddiswyddiad Mr Edwards: “Mae Huw Edwards heddiw wedi ymddiswyddo a gadael y BBC.

“Ar ôl 40 mlynedd o wasanaeth, mae Huw wedi egluro bod ei benderfyniad wedi’i wneud ar sail cyngor meddygol.

“Mae’r BBC wedi derbyn ei ymddiswyddiad, y mae’n credu y bydd yn caniatáu i bob plaid symud ymlaen. 

“Nid ydym yn credu ei bod yn briodol gwneud sylw pellach.”

'Blwyddyn o boen'

Ym mis Chwefror fe ymddiheurodd y BBC i'r teulu ar ôl i adolygiad i'r ffordd y mae cwynion yn cael eu trin yn y gorfforaeth.

Yn ôl adroddiad a gafodd ei gomisiynu yn sgil y sgandal, mae angen “mwy o gysondeb” o ran sut mae cwynion yn cael eu prosesu.

Mewn cyfweliad gyda The Sun, dywedodd mam y person ifanc: “Nid dyma’r diwedd i ni.

“Rydyn ni hefyd yn dioddef ac wedi bod yn aruthrol ers bron i flwyddyn.

“Mae gennym ni gymaint o gwestiynau o hyd ac mae angen i’r BBC eu hateb.”

Ychwanegodd: “Mae hwn wedi bod yn gyfnod trawmatig rydyn ni’n teimlo nad yw wedi’i ddatrys. 'Da ni eisiau diweddglo. Nid yw hyn yn mynd â ni yn nes ato.

“Dywedodd datganiad y BBC ei fod am i bawb symud ymlaen. 'Da ni eisiau hynny yn fwy na dim ond sut allwn ni? 

"Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn gwerthfawrogi'r uffern rydyn ni wedi bod drwyddo.

“Mae wedi cerdded i ffwrdd ond rydyn ni'n dal i fyw trwy'r hunllef hon. Mae hi wedi bod yn flwyddyn o boen.”

Dywedodd y teulu eu bod wedi cael e-bost gan y BBC ddydd Llun gyda'r datganiad am ymddiswyddiad Mr Edwards.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.