Plentyn ymysg pump o bobl wedi marw wrth geisio croesi'r Sianel
23/04/2024
Mae plentyn ymysg pump o bobl sydd wedi marw wrth geisio croesi'r Sianel ddydd Mawrth.
Dywedodd yr awdurdodau yn Ffrainc fod un plentyn, tri dyn ac un ddynes wedi marw.
Mewn datganiad, dywedodd gwylwyr y glannau yn Ffrainc: "O gwmpas 05:00 fore Mawrth, hwyliodd cwch bach (gyda mwy na 110 o bobl) o draeth yn yr Almaen."
Mae o gwmpas 100 o bobl wedi cael eu hachub gan awdurdodau Ffrengig, a bellach ar y ffordd i Boulogne yn ôl adroddiadau.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn adroddiadau blaenorol gan bapur newydd lleol yn Ffrainc, La Voix du Nord, a oedd yn adrodd fod merch pedair oed wedi marw.
Llun: Llun llyfrgell (Wotchit/Ben Stansall)