Newyddion S4C

'Mor ddiolchgar': Elusennau angen mwy o 'gefnogaeth ariannol'

23/04/2024

'Mor ddiolchgar': Elusennau angen mwy o 'gefnogaeth ariannol'

Mae angen mwy o gefnogaeth ariannol ar gyfer elusennau, yn ôl un teulu o Gaerdydd sydd mor ddiolchgar am y cymorth y maen nhw wedi ei dderbyn.

Fe aeth Rhys, Sioned a Cadi Roberts i Ffrainc i sgïo ddechrau Ebrill, a hynny gyda chymorth elusen Ice Cool Kids

Mae Ice Cool Kids yn elusen sydd wedi ei lleoli yn ne Cymru ac sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr i alluogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu i sgïo. 

Mae'r criw yn cyfarfod ar ddydd Sul cyntaf pob mis ar y llethr sgïo ym Mhen-bre yn Sir Gaerfyrddin yn ogystal â chynnig teithiau i Langrannog a thramor. 

Image
Cadi a Sioned
Cadi a Sioned yn Ffrainc

Mae gan Cadi, 25 oed, anghenion dysgu, ac fe dderbyniodd ei mam, Sioned, ddiagnosis o sglerosis ymledol (MS) yn 2006.

Er yn sgïwraig brofiadol yn y gorffennol, doedd Sioned ddim yn mynychu sesiynau sgïo misol yr elusen ym Mhen-bre. Ond wedi i'r teulu gytuno mynd ar y daith, fe gafodd ei pherswadio gan un o sylfaenwyr yr elusen, Chris Harvey, i ymuno. 

"O'dd e'n lyfli, achos o'dd e'n rhywbeth o'n i byth yn meddwl fysen i'n neud. O'n i'n arfer sgïo, oedd ein mab yn arfer dod 'da ni, ond yn anffodus dwi nawr mewn cadair olwyn ag o'n i ddim yn meddwl fysen i'n cael y cyfle i fynd yn ôl ar y llethre, so i fynd gyda Cadi, o'dd hwnna yn bonws," meddai Sioned.

Ychwanegodd ei gŵr, Rhys: "O'n i'n hapus yn gweld nhw'n mynd gyda'i gilydd yn y lle cyntaf, ond hefyd, Sioned wedi bod yn arwain teithiau ysgol, Sioned wedi bod yn sgïwraig o fri a'n sgïo mewn ffordd urddasol iawn.

"Er bod o'n deimlad melys-chwerw bod Sioned yn ôl ar y llethrau, oedd gweld nhw'n mynd efo'i gilydd yn deimlad hynod braf yn mwynhau a'r tywydd yn braf iawn a hefyd mynd fel y gwynt! Dwi ddim yn meddwl bod Sioned erioed wedi sgïo mor gyflym."

Image
Cadi yn sgïo
Cadi yn eistedd ar y 'sit-ski' gyda'r gwirfoddolwyr.

Mae angen mwy o 'gefnogaeth ariannol' ar gyfer elusennau yn ôl Rhys.

"Falle byddan nhw fwy niferus, yn fwy llewyrchus pe bai y Llywodraeth, dwi'm yn deud bod y Llywodraeth ddim yn cefnogi petha fel hyn ond ti'n gweld cymaint o doriadau, a ma'r Llywodraeth yn gorfod pwyso a mesur ydyn nhw yn trwsio ffyrdd, neu ydyn nhw'n rhoi cefnogaeth i elusennau, amgueddfeydd," meddai.

"Ond yn sicr, ma' isio i'r  bobl sydd tu ôl i hwn hefyd gael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion, ond yn sicr, mae isio cefnogaeth ariannol hyd yn oed bod disgownt neu adnoddau neu offer neu hyd yn oed gwobrau mewn raffl yn cael eu rhoi i'r elusennau.

"Dyma'r peth sy'n codi arian oherwydd y bobl tu ôl i'r llenni sy'n neud y gwaith."

Image
Cadi a Chris
Cadi gyda Chris Harvey yn sgïo yn Ffrainc ddechrau Ebrill.

Mae Chris Harvey yn un o sylfaenwyr yr elusen, a dywedodd fod y sefyllfa ariannol yn yr oes sydd ohoni yn heriol i'r elusen. 

"Y sefyllfa ariannol ydy'r peth anoddaf i ni bellach. Pan ddechreuon ni yn 2005, roedd gan bobl arian i gyfrannu, ond bellach, does dim lot o arian o gwmpas," meddai.

Mae'r elusen yn defnyddio offer arbenigol ar gyfer y gweithgareddau, yng Nghymru ac ar y cyfandir, gan gynnwys y 'sit-ski' sy'n galluogi person i eistedd mewn cadair a pherson arall yn ei wthio. 

Ychwanegodd Chris Harvey: "Mae'r offer er enghraifft, mae pob sit-ski yn costio rhwng £8,000 i £10,000, dim ond ar gyfer un, ac mae gennym ni saith ohonyn nhw, ac mae hyn dros gyfnod o 18 mlynedd. Mae'n rhaid i ni brynu nhw o naill ai'r UDA neu Ffrainc, mae popeth yn anoddach bellach achos does dim cymaint o arian o gwmpas.

"Rydym ni'n darparu ar gyfer 200/250 o bobl rhwng pawb, o'r plant a phobl ifanc i'w teuluoedd nhw, ac mae gweld y wên ar eu gwynebau nhw yn deimlad arbennig iawn."

Image
Cadi
Fe gafodd Cadi brofiad anhygoel ar y llethrau yn ôl ei theulu.

Mae'r teulu mor ddiolchgar i'r elusen am y cymorth a'r profiadau y maent wedi eu cael.

Dywedodd Rhys: "Pa mor wych ydi o, mae o'n ffantastig. Ma' nhw'n cael cyfleon i neud petha fyddan nhw ddim fel arfer, pobl hefyd sydd efallai efo anhawsterau gwahanol, bod nhw ddim yn gorfod eistedd i sgïo, hyd yn oed bod o'n rywbeth fel cyfathrebu neu ryw fath o natur awtistig.

"Diom ots beth yw e, mae o fel teulu a ma'r hygyrchedd, mae o ar gael i bawb."

Ychwanegodd Sioned: "Dwi'n meddwl mae'n anodd achos pan ma' 'da chi plentyn efo anabledd, 'da chi ddim yn gallu, neud yr holl bethe ma' teuluoedd, dwi'n mynd i ddefnyddio'r gair normal neu be' bynnag, mae'n anodd. 

"So felly pan ma' rhywbeth fel hyn yn cael ei drefnu, mae'r pethe yna yn  cael eu rhoi yn eu lle, achos ma' rhaid i fi gyfaddef, pan o'n i'n edrych ar y trip, o'dd dros 50 ohonon ni 'na, ag oedd gofynion pob un plentyn, pob un oedolyn, wedi cael ei ystyried, a o'dd e'n ffantastig.

"Y ffrindie ni wedi creu, ag o'dd yr wythnos fel un teulu mawr."

'Cyfraniad enfawr'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae elusennau a gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i iechyd a lles pobl a chymunedau ledled Cymru.

“Rydym yn ymwybodol o’r effaith y mae’r argyfwng costau byw yn parhau i’w chael ar draws pob sector. Mae'r trydydd sector yn gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau, bygythiadau i incwm, costau cynyddol a phroblemau gyda recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr.

“Mae ein rhwydwaith o Gynghorau Gwirfoddol Sirol yn darparu cefnogaeth hollbwysig i bob mudiad gwirfoddol ar draws Cymru. Y llynedd, fe wnaethom gynyddu ein Grant Gwirfoddoli Cymru £1.5m i helpu i liniaru’r argyfwng o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.