Newyddion S4C

Siopau recordiau yn 'bwysig' i gymunedau a bandiau, yn ôl Huw Stephens

20/04/2024

Siopau recordiau yn 'bwysig' i gymunedau a bandiau, yn ôl Huw Stephens

Mae siopau recordiau yn chwarae rhan bwysig yn eu cymunedau, yn ôl y cyflwynydd radio Huw Stephens.

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Siop Recordiau ddydd Sadwrn, fe wnaeth y band Adwaith berfformio set yn siop Tangled Parrot yn Abertawe ddydd Gwener.

Roedd y perfformiad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar orsaf BBC 6Music, ar raglen Huw Stephens.

Ac wrth drafod y diwrnod, sydd yn dathlu cyfraniad siopau recordiau i ddiwylliant y wlad, dywedodd Huw eu bod yn rhoi teimlad o "berthyn" i ffans o gerddoriaeth.

Yn ôl gwefan Record Store Day, mae 13 o siopau record annibynnol dal yn gweithredu yng Nghymru.

Yn ystod 2023, cafodd 5.9 miliwn o recordiau finyl eu gwerthu yn y DU, sef y niferoedd uchaf i gael eu gwerthu ers 1990.

“Mae siopau recordiau yn bwysig fi’n credu,” dywedodd Huw Stephens, wrth siarad ar raglen Heno.

“Maen nhw’n bwysig i’r gymuned – fysa Adwaith heb ffurfio band oni bai am Tangled Parrot yng Nghaerfyrddin.

“Os chi’n ffan o gerddoriaeth, mae dod i siop recordiau, da chi’n ffeindio pethau newydd, gweld beth arall sydd yna a ‘da chi’n teimlo eich bod chi’n perthyn. 

“Da ni i gyd yn gwrando ar fiwsig gyda’n clustffonau ni ymlaen a gwrando ar playlists a phethau, felly mae mynd i gig neu fynd i siop records yn rhywbeth chi’n gallu dal yn eich dwylo. 

'Buzz'

Dywedodd Huw Leonard, sydd gweithio yn Tangled Parrot Abertawe: “Ni di bod yn Abertawe ers tair blynedd nawr ac mae’n tyfu o flwyddyn i flwyddyn i ddweud y gwir.  Mae buzz fan hyn.”

Image
Adwaith

Daeth perfformiad Adwaith diwrnod wedi iddyn nhw ryddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Mwy’, wrth i’r band barhau i deithio a pherfformio ar draws y DU a thramor.

Dywedodd Gwenllïan Anthony, gitarydd bas y band: “Ni just wedi dod off headline tour, a nawr ni ar tour gyda Jane Weaver, so ni’n brysur iawn.

“Mae’n teimlo fel fever dream ar hyn o bryd.

“Oni ddim yn disgwl i ni fynd tramor pan wnaethon ni ddechrau’r band a nawr ni’n mynd dros y byd i gyd, ni’n lwcus iawn. Mae’n amazing.”

Ychwanegodd Huw: "Maen nhw dim ond canu’n Gymraeg, Adwaith. Maen nhw wedi ffurfio yng Nghaerfyrddin, ac maen nhw’n mynd a Chymru rownd y byd, felly maen nhw’n fand pwysig fi’n credu.”

Lluniau: Heno

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.