Newyddion S4C

Rygbi: Galw am ddyfarnwyr benywaidd

20/04/2024

Rygbi: Galw am ddyfarnwyr benywaidd

Llond cae o blant yn mwynhau un o brif gampau Cymru, ond mae un peth sy'n gwbl angenrheidiol er mwyn cadw trefn ar y ddau dîm - dyfarnwr.

Ond wrth i gêm y merched ddatblygu yng Nghymru mae rhai yn dadlau bod angen mwy o ferched i fynd at i ddyfarnu ac mae 'na un ferch 15 oed eisoes wedi cymryd y cam hwnnw.

"Fi 'di gwneud cymhwyster Lefel 1 Tachwedd diwethaf am reffo - yn dyfarnu'r merched yn yr ardal fi. Dw i'n hoffi cael y cyfle hyn, dw i ond wedi cael tua un gêm flwyddyn yma, flwyddyn diwethaf am yr ysgol ac i chwarae'r twrnament hyn ac i gael dyfarnwr merched am y gêm gyntaf yn gwneud fi'n rili glad dw i 'di gwneud hyn."

Gobaith Olivia yw annog mwy o ferched i wneud yr un peth.

"Dw i eisiau annog mwy o bobl yn tîm fi, neu timoedd arall i drio cymryd rhan ac i helpu mas yn y dyfodol hefyd. Dw i'n meddwl mae e'n bwysig i gael merched, cynrychioli merched yn y gêm rygbi ac yn y dyfarnu merched."

Er bod y criw wedi bod yn chwarae ers blynyddoedd, heddiw oedd y tro cyntaf iddyn nhw gael dyfarnwr benywaidd.

"Dw i'n chwarae i Ferthyr a Cardiff Blues a dw i ddim erioed wedi cael dyfarnwr merch."

Fel mae hwnna'n wneud ti teimlo?

"Trist oherwydd mae'r gymuned ddim yn fawr am merched yn dyfarnu."

"Yn y gêm gyntaf heddiw, wnes i gael dyfarnwr merch am y tro cyntaf. Roedd yn wahanol. Roedd e'n dda i weld dyfodol lle mae merched yn gallu cael rygbi yn eu bywydau."

"Mae hyn y tro cyntaf oedden ni wedi cael merch yn dyfarnu ni a'r ail tro i fi fod mewn sevens rygbi. So, mae e'n experience da. Dw i'n rili enjoio fe."

Mae angen i'r merched gael rhywun sy'n gallu eu hysbrydoli nhw yn ôl eu hathro.

"Fi'n meddwl mae merched i raddau nawr wedi elwa trwy lot o gyfleoedd i whare rygbi ond falle ddim o angenrheidrwydd yr un cyfleoedd i ddyfarnu.

"Ni angen rhywun sydd falle yn mynd i fod yn un o'r fenywod cyntaf, allan i'r gêm lefel rhyngwladol sydd wedyn falle yn rhoi targed bach i ferched ifanc neu falle merched sydd wedi dod i ddiwedd gyrfa chwarae nhw benderfynu, 'Wnaf fi fynd yn y canol hefyd.'"

Er bod llond lle o ferched yma heddiw ac Undeb Rygbi Cymru yn cynnig cwrs penodol i ferched i hyfforddi i fod yn ddyfarnwyr, mae 'na dal dipyn o waith i'w wneud.

Wrth i'r merched hyn arddangos eu doniau ar y cae mae 'na alw ar fwy ohonyn nhw i ystyried ennill cymhwyster i ddod yn ddyfarnwyr a thrwy hynny, ysbrydoli merched eraill i wneud yr un fath.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.