Newyddion S4C

Rhoi'r gorau i chwilio am ddyn sydd ar goll yn Sir Benfro

19/04/2024
Luke Stephenson

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud bod yr ymdrechion i ddod o hyd i ddyn sydd ar goll yn Sir Benfro wedi dirwyn i ben.

Cafodd Luke Stephenson ei weld ddiwethaf ar 13 Ebrill yn Noc Penfro.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd yr heddlu bod penderfyniad wedi ei wneud ar y cyd gyda'r asiantaethau oedd yn chwilio amdano "ar ôl ystyriaeth ofalus o'r holl wybodaeth a chyngor arbennigol oedd ar gael".

Fe fydd ymholiadau'r heddlu i ddiflaniad Mr Stephenson yn parhau.

"Er bod hwn yn benderfyniad anodd iawn i'w wneud, rydym yn fodlon ein bod wedi gwneud popeth yr oeddem yn gallu ei wneud i ddod o hyd i Luke.

"Mae ei deulu wedi cael gwybod am y penderfyniad ac mae ein meddyliau gyda nhw yn ystod yr amser anodd hwn," meddai llefarydd.

Llun teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.