Newyddion S4C

Cyhuddo gŵr Nicola Sturgeon mewn cysylltiad â chamddefnyddio arian yr SNP yn anghyfreithlon

18/04/2024
Peter Murell

Mae gŵr Nicola Sturgeon a chyn-brif weithredwr yr SNP, Peter Murrell, wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â chamddefnyddio arian yr SNP yn anghyfreithlon yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu.

Cafodd y dyn 59 oed ei gymryd i’r ddalfa i’w holi am 09.13, fwy na blwyddyn ar ôl iddo gael ei arestio am y tro cyntaf.

Cadarnhaodd yr heddlu nos Iau ei fod wedi cael ei gyhuddo o embeslu (embezzlement) mewn cysylltiad â'u hymchwiliad i gyllid yr SNP.

Dywedodd y llu mewn datganiad: “Heddiw, dydd Iau, Ebrill 18, mae dyn 59 oed wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â embeslu arian gan Blaid Genedlaethol yr Alban.

“Cafodd y dyn, a gafodd ei arestio am 09.13 heddiw ac a oedd wedi’i arestio’n flaenorol ar Ebrill 5, 2023, ei gyhuddo am 6.35pm ar ôl cael ei holi ymhellach gan dditectifs Heddlu’r Alban oedd yn ymchwilio i gyllid y blaid.

“Bydd adroddiad yn cael ei anfon i Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Procuradur Ffisgal maes o law.

“Nid yw’r dyn bellach yn y ddalfa.

“Gan fod yr ymchwiliad hwn yn parhau, ni allwn wneud sylw pellach.

“Mae’r mater yn weithredol at ddibenion Deddf Dirmyg Llys 1981 ac felly cynghorir y cyhoedd i fod yn ofalus os ydynt yn ei drafod y mater ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Y cefndir

Cafodd Nicola Sturgeon, a ymddiswyddodd fel prif weinidog ac arweinydd yr SNP ym mis Chwefror 2023, ei harestio ddeufis ar ôl i'w gŵr gael ei arestio am y tro cyntaf, tra bod cyn-drysorydd y blaid Colin Beattie hefyd wedi'i arestio'r un flwyddyn.

Cafodd Ms Sturgeon a Mr Beattie eu rhyddhau heb gyhuddiad tra bod ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal.

Ymddiswyddodd Murrell fel prif weithredwr yr SNP – rôl yr oedd wedi’i ddal ers dros 20 mlynedd – yn ystod ymgyrch arweinyddiaeth y llynedd.

Mae wedi bod yn briod â Ms Sturgeon ers 2010.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.