‘Trydydd Rhyfel Byd os yw Wcráin yn colli’ meddai Prif Weinidog y wlad
Fe fydd yna drydydd rhyfel byd os nad yw Wcráin yn llwyddo i wrthsefyll ymosodiad Rwsia, yn ôl Prif Weinidog y wlad.
Dywedodd Denys Shmyhal y bydd “y system ddiogelwch fyd-eang yn cael ei dinistrio” os yw Rwsia yn llwyddo i oresgyn Wcráin.
Roedd yn siarad wrth iddo deithio i Washington DC i annog Cyngres yr Unol Daleithiau i basio bil i roi $61bn yn rhagor o gymorth ariannol i’r wlad.
Mae disgwyl i Dŷ’r Cynrychiolwyr bleidleisio ar y pecyn ddydd Sadwrn.
“Mae angen yr arian hwn arnom ddoe, nid yfory, nid heddiw,” meddai Denys Shmyhal wrth y BBC.
"Os na fyddwn yn llwyddo... fe fydd hi ar ben i Wcrain.
“Felly bydd y system fyd-eang, y system ddiogelwch fyd-eang yn cael ei dinistrio.
“Fe fydd yna lawer o wrthdaro, llawer o ryfeloedd o’r fath, ac yn y pen draw, fe allai arwain at y Trydydd Rhyfel Byd.”
Mae'r Arlywydd Volodymyr Zelensky eisoes wedi rhybuddio y gallai Rwsia geisio goresgyn Gwlad Pwyl nesaf.
Mae Llywodraeth Rwsia wedi dweud mai codi bwganod yw hynny.
Fis diwethaf fe wfftiodd yr Arlywydd Vladimir Putin awgrymiadau y gallai Rwsia un diwrnod ymosod ar wledydd eraill yn nwyrain Ewrop fel “nonsens llwyr”.